Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd systemau chwistrellu yn dilyn tân mewn ysgol yng Nghei Connah

Postiwyd


Mae buddion gosod systemau chwistrellu yn cael eu hamlygu yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Cei Connah y prynhawn yma lle llwyddodd systemau chwistrellu i ddiffodd tân cyn iddo gael cyfle i ledaenu.

Bu’n rhaid i tua 1000 o ddisgyblion adael yr adeilad a chafodd diffoddwyr tân eu galw i’r safle am 12.53 o’r gloch heddiw (Dydd Llun 3ydd Mehefin) wedi i declyn torri â laser yn yr ardal dechnoleg achosi tân.

Cafodd y tân ei gyfyngu i’r adeilad lle deilliodd y tân a’i ddiffodd yn gyflym gan y system chwistrellu.
Yng Nghymru, mae’r rheoliadau a gafodd eu cyflwyno yn Ebrill 2014 yn golygu bod yn rhaid gosod systemau chwistrellu awtomatig mewn adeiladau risg uchel. Yn Ionawr 2016 daeth yn orfodol gosod systemau chwistrellu mewn eiddo domestig sy’n cael eu codi o’r newydd neu’n cael eu trosi.
Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau: “Mae’r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd systemau chwistrellu o ran helpu i atal lledaeniad tân.

“Mae ysgolion yn rhan allweddol o’r gymuned – ac oherwydd bod y system chwistrellu wedi gweithio’n gyflym cafodd y disgyblion eu diogelu a llwyddwyd i osgoi’r difrod a’r amhariad a fyddai wedi cael ei achosi pe byddai’r tân wedi lledaenu.

“Yng Nghymru rydym ni ar flaen y gad o ran hyrwyddo diogelwch tân ac amddiffyn ein trigolion a’n busnesau – mae’r buddion sydd ynghlwm â systemau chwistrellu domestig a masnachol yn fwy o lawer na’r gost o’u gosod a’u cynnal a’u cadw.

“Maent yn gwneud mwy nag y mae pobl yn ei feddwl – diogelu pobl, diffoddwyr tân, swyddi, cartrefi, busnesau, yr economi a’r amgylchedd.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen