Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol Cadeirydd Newydd ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru   

Postiwyd

Cafodd y Cynghorydd Peter Lewis MBE, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ei ethol fel Cadeirydd newydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Conwy, ym Modlondeb yn gynharach heddiw (dydd Llun 17fed Mehefin).

Mae’r Cynghorydd Lewis wedi bod yn aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub ers 2012.

Ar ei etholiad i wasanaethu fel Cadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf, diolchodd y Cynghorydd Lewis i’r aelodau am eu ffydd ynddo a thalodd deyrnged i’r cyn Gadeirydd, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies o Gyngor Sir Ddinbych, am ei gyfraniad fel aelod o’r Awdurdod ers 1999.

Meddai’r Cynghorydd Lewis: “Rydw i’n falch iawn o gael ymgymryd â’r rôl yma ar ôl gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd yn y gorffennol.  Mae gen i hanes o fod yn gefnogwr brwd dros yr Awdurdod ac edrychaf ymlaen at gael gweithio’n effeithiol gyda’n gilydd i sicrhau bod y cyhoedd yng Ngogledd Cymru yn cael yr amddiffyniad gorau posibl.”  

Cafodd y Cynghorydd Dylan Rees ei ethol yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod.

O gael ei ethol i’r rôl, dywedodd y Cynghorydd Rees: “Rwyf yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth yr aelodau.  Rydw i wedi bod yn aelod o’r Awdurdod ers dwy flynedd, a chan fy mod yn dal i fod yn aelod eithaf newydd rydw i’n cydnabod fy mod yn dal i ddysgu.  Edrychaf ymlaen at gael gweithio ochr yn ochr â’r Cadeirydd fel cefnogwr, llysgennad ac amddiffynnwr ymroddedig ar gyfer yr Awdurdod.

Cafodd y Cynghorydd Brian Apsley o Gyngor Sir Wrecsam ei ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, a chafodd y Cynghorydd Owen Thomas o Gyngor sir y Fflint ei ethol yn Ddirprwy Gadeirydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen