Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mellten yn taro eiddo yn Wrecsam

Postiwyd

Galwyd dau griw o Wrecsam at eiddo yn Bowling Bank, Wrecsam am 1.25 o’r gloch y bore yma (Dydd Mercher 24ain Gorffennaf).

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddwy set o offer anadlu a dwy bibell dro jet i ddiffodd y tân.

Roedd y digwyddiad dan reolaeth erbyn 2.17 o’r gloch y bore.

Roedd y tân yn nho’r eiddo a chredir ei fod wedi ei gynnau gan fellten. Achoswyd difrod tân 50% i’r to a difrod dŵr yng ngweddill yr eiddo.

Llwyddodd y preswylwyr i fynd allan o’r tŷ cyn i’r criwiau tân gyrraedd ac ni chafodd unrhyw un ei anafu.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen