Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Kronospan - Diweddariad pellach gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - 16.01.20

Postiwyd

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn parhau ar y safle yn Y Waun gan ymdrin â'r mannau gwaethaf a'r gobaith yw y bydd y gwaith o fynd i’r afael â’r digwyddiad yn cael ei drosglwyddo’n ôl i Kronospan er mwyn i’w gweithwyr barhau i ymdrin ag unrhyw ddeunydd yn y dyfodol agos.

 

Roedd yr holl asiantaethau yn cytuno fod hwn yn ddigwyddiad sylweddol ac o ganlyniad cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddod â gorsaf fonitro llygredd symudol arbenigol i fyny o Dde Cymru i’w leoli yn Y Waun. Cafodd yr uned ei gosod yn hwyr nos Fercher 15 Ionawr ac mae data ansawdd yr aer yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

 

Bydd swyddogion o Gyngor Wrecsam yn parhau i gydgysylltu gyda’r holl asiantaethau eraill ac yn ymdrechu i roi gwybod i breswylwyr am unrhyw faterion yn ymwneud â’r digwyddiad hwn.

 

Mae cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau:

 

Os ydych chi mewn man sy’n cael ei effeithio gan fwg, arhoswch y tu mewn a chaewch y drysau a’r ffenestri, ond agorwch nhw eto er mwyn cael aer i mewn i’ch cartref ar ôl i’r mwg basio. Os oes rhaid i chi fod y tu allan, osgowch yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan fwg neu ludw, neu cyfyngwch yr amser y byddwch chi’n ei dreulio tu allan. Dylai modurwyr sy’n teithio drwy’r mwg gadw eu ffenestri ar gau, diffodd y system aerdymheru a chadw tyllau aer y car ar gau. 

 

Gall mwg lidio llwybrau anadlu, y croen a’r llygaid gan arwain at dagu a brest dynn, diffyg anadl a phoen yn y frest. Gall hyn hefyd olygu fod problemau megis asthma yn gwaethygu; dylai pobl sydd ag asthma gario eu hanadlydd gyda nhw drwy’r amser. 

 

Gall arogleuon sy’n gysylltiedig â thanau achosi dicter, straen a phryder, cyfog, cur pen neu benysgafnder. Mae’r rhain yn adwaith cyffredin i arogleuon, yn hytrach nac i’r sylweddau sy’n achosi’r arogl. Fe allwn ganfod arogleuon ar lefelau sydd yn llawer is na’r lefelau sy’n gallu achosi niwed i iechyd. 

 

Dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu symptomau gysylltu â’u Meddyg Teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Mae’r symptomau’n diflannu’n gyflym fel arfer ac ni ddylent arwain at broblemau iechyd hirdymor.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen