Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd systemau chwistrellu wedi tân yn Bolingbroke Heights, y Fflint

Postiwyd

Cafodd tân mewn bloc fflatiau yng Ngogledd Cymru ei ddiffodd yn llwyr gyda diolch i system chwistrellu effeithlon.

Cafodd criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw at dân yn Bolingbroke Heights, y Fflint neithiwr (Nos Wener 24ain Ionawr) am 17.49 o’r gloch – anfonwyd peiriannau o’r Fflint, Glannau Dyfrdwy a Threffynnon at y digwyddiad.

Fe achubodd y diffoddwyr tân ddyn yn ei 70au o fflat yn llawn mwg yn yr adeilad. Cafodd driniaeth ragofalol yn y fan a’r lle am ei fod wedi anadlu mwg.

Cafod y tân ei ddiffodd gan y system chwistrellu a chafodd ei gyfyngu i bopty yn y fflat.

Yn 2016 a thrwy weithio’n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, fe osododd Cyngor Sir y Fflint system chwistrellu yn Bolingbroke Heights, Richard Heights Castle Heights yn y Fflint.

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd systemau chwistrellu o ran eu gallu i helpu i atal lledaeniad tân.

“Mae’r ffaith bod y system chwistrellu wedi gweithio’n gyflym wedi amddiffyn preswylydd y fflat rhag niwed, yn ogystal ag atal difrod pellach i’w fflat ac amharu ar breswylwyr eraill yn yr adeilad a fyddai wedi bod yn anochel pe byddai’r tân wedi lledaenu.

“Yng Nghymru rydym ni wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo diogelwch tân ac amddiffyn ein trigolion a busnesau – mae’r buddion sydd ynghlwm â gosod system chwistrellu mewn adeiladau masnachol a domestig yn llawer iawn mwy na’r gost o’u gosod a’u cynnal a’u cadw.

“Maee systemau chwistrellu yn ffordd effeithiol iawn o ddiogelu rhag tân, amddiffyn pobl, diffoddwyr tân, swyddi, cartrefi, busnesau, yr economi a’r amgylchedd.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen