Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i helpu i leihau’r galw yn dilyn tân yn yr awyr agored yng Nghwm Y Glo

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu ei apêl i osgoi llosgi dan reolaeth neu losgi sbwriel yn dilyn tân yng Nghwm Y Glo, Gwynedd y prynhawn yma, wedi i dân bychan ledaenu i bedwar car.

Anfonwyd dau griw o Gaernarfon, criw o Fangor a chriw o Lanberis at y digwyddiad am 13.00 o’r gloch y prynhawn yma.

Meddai Mike Owen, Pennaeth Ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym ni’n gofyn i ffermwyr a pherchnogion tir osgoi llosgi dan reolaeth ac rydym ni’n gofyn i drigolion osgoi llosgi gwastraff er mwyn helpu i leihau’r galw ar ein diffoddwyr tân a helpu i’w cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Fe all tân bychan ledaenu’n hawdd iawn - ar yr achlysur hwn mae’n ymddangos fel petai unigolyn wedi bod yn llosgi sbwriel mewn cynhwysydd ar dir diffaith. Fe ledaenodd y tân ar bedwar car cyfagos.

“Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol diangen ar wasanaethau yng Ngogledd Cymru. Gadewch inni gydweithio i drechu coronafeirws.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen