Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

DIOLCH I CHI

Postiwyd

Hoffai'r Gwasanaethau Tân ac Achub, yr Heddlu ac asiantaethau partner ledled Cymru ddiolch i aelodau'r cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i nodi ac adrodd am y rhai hynny sy'n gyfrifol am gynnau tanau anghyfreithlon yn eu cymunedau. Mae'r wybodaeth a gafwyd wedi bod yn hanfodol i'n galluogi i geisio euogfarnau a nodi'r cyflawnwyr hynny sydd wedi achosi difrod difrifol ac aruthrol i dir a bywyd gwyllt, yn ogystal â chost ddiangen i'n gwasanaethau brys. Mae tanau glaswellt bwriadol yn lleihau ansawdd yr aer, gan achosi problemau anadlu a gwaethygu cyflyrau megis asthma. Yn ystod pandemig Covid-19, mae'n hanfodol cadw at gyngor y Llywodraeth ar ynysu a phellter cymdeithasol. Gadewch i ni barhau i weithio gyda'n gilydd yn ein cymunedau i frwydro yn erbyn achosion tanau bwriadol! Ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 os gwelwch unrhyw un yn cynnau tanau bwriadol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen