Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn safle tirlenwi Chwarel Hafod, Rhiwabon

Postiwyd

Galwyd diffoddwyr tân at dân sylweddol ar safle tirlenwi ger Wrecsam neithiwr (Nos Fercher 27 Mai 2020) ac maent dal yn bresennol y bore yma.

Anfonwyd criwiau o Johnstown, Wrecsam, Llangollen, Ellesmere, y Waun a Llangollen, ynghyd â’r uned meistroli digwyddiadau, i safle tirlenwi Chwarel Hafod yn Rhiwabon am 19.12 o’r gloch neithiwr.

Cynghorwyd trigolion yng nghyffiniau Ffordd Bangor, Rhiwabon i gadw drysau a ffenestri ar gau neithiwr oherwydd y mygdarthau gwenwynig a oedd yn yr aer wrth i ddiffoddwyr tân ymladd y tân.

Y bore yma, mae diffoddwyr tân yn dal i ddelio gyda’r digwyddiad ac oherwydd bod cyfeiriad y gwynt wedi newid mae’r mwg nawr yn effeithio ar dref Wrecsam, a chynghorir trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau.

Bydd y digwyddiad yn destun ymchwiliad maes o law.

Meddai Jeff Hall, Pennaeth Safle’r digwyddiad: “Oherwydd natur y digwyddiad byddwn ar y safle am beth amser, am y 24 awr nesaf yn ôl pob tebyg. Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid o Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod y digwyddiad yn dod dan reolaeth ac i amddiffyn trigolion lleol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen