Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar drigolion i gymryd pwyll yn dilyn tân mewn tŷ yn Sealand

Postiwyd

Mae swyddog Tân yn rhybuddio trigolion am beryglon gadael eitemau’n gwefru yn dilyn tân yn Sealand y bore yma (Dydd Iau 28ain Mai).

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at dân mewn eiddo yn East Green, Sealand am 11.06am. Anfonwyd injan o Lannau Dyfrdwy a Bwcle at y digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y criwiau ddwy set o offer anadlu a phibellau tro i daclo’r tân.

Cafodd merch ifanc ei chludo i’r ysbyty ac fe achosodd y tân ddifrod mwg sylweddol i’r ystafell wely ac ychydig o ddirfod mwg yng nghyntedd yr eiddo.

Meddai Jane Honey, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: “Mae’r preswylwyr yn ffodus iawn bod y tân wedi digwydd yn ystod y dydd a’u bod wedi llwyddo i fynd allan o’r eiddo. Fe allai’r sefyllfa fod wedi bod yn un wahanol iawn petai’r tân wedi digwydd yn ystod y nos, pan oeddent yn cysgu. Cawsant eu rhybuddio am y tân gan larwm mwg a oedd wedi ei osod yn yr eiddo.

“Dilynwch ein cyngor wrth wefru cyfarpar.”

  • Defnyddiwch y gwefrwr a ddaeth gyda’r eitem
  • Os oes raid i chi brynu gwefrwr newydd, prynwch un dilys o siop dibynadwy. Mae nifer o eitemau ffug ar y farchnad ac mae’n anodd iawn eu gwahaniaethu.
  • Peidiwch â storio, defnyddio na gwefru batris mewn tymheredd uchel iawn neu isel iawn.
  • Gofalwch rhag ofn i’ch batris gael eu gwasgu, tyllu neu eu gorchuddio gyda dŵr
  • Peidiwch â gadael eitemau yn gwefru dragywydd ar ôl iddynt orffen gwefru - mae’n well peidio â gadael eitemau’n gwefru dros nos
  • Peidiwch byth â gorchuddio gwefrwyr na dyfeisiadau gwefru
  • Peidiwch â gorlwytho socedi
  • Gosodwch larwm mwg a’i gynnal a’i gadw - os digwydd tân, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc. Fe all larwm mwg roi digon o gyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.
  • Mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod gennych chi gynllun dianc cyfarwydd a llwybr dianc sydd yn glir o rwystrau, er mwyn i chi allu mynd allan mor gyflym â phosib mewn achos o dân.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen