Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau mwg yn rhybuddio dyn am dân yn ei gartref ym Mhrestatyn

Postiwyd

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i ddyn yn ei 80au lwyddo i ddianc yn ddianaf o dân difrifol yn ei gartref ym Mhrestatyn yn ystod oriau mân y bore yma.

Galwyd criwiau o Abergele, Treffynnon, Wrecsam, Bae Colwyn a’r Rhyl at dân mewn eiddo yn Victoria Road, Prestatyn am 04.18 o’r gloch y bore yma (Dydd Gwener 10fed Gorffennaf).

Cychwynnodd y tân mewn ystafell wely a lledaenodd i ofod to’r adeilad.

Roedd y preswylydd i lawr y grisiau pan glywodd y larwm mwg yn seinio. Aeth i fyny’r grisiau i weld beth oedd yn bod a phan agorodd ddrws yr ystafell wely gwelodd bod yr ystafell ar dân.

Gadawodd yr eiddo ar ôl cael help gan gymydog a galwodd 999. Cafodd driniaeth yn y fan a’r lle am ei fod wedi anadlu mwg ond nid oedd yn rhaid iddo fynd i’r ysbyty.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol.  

Meddai Tim Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol - oni bai bod y dyn wedi cael ei rybuddio gan ei larwm mwg, mae’n bosib y byddai’r canlyniadau wedi bod yn angheuol.

“Mae’r tân yma’n dangos pa mor beryglus ydi tanau trydanol - fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

"Mae’n bwysig defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gwirio eitemau a lidiau trydanol rhag ofn eu bod wedi difrodi neu dreulio. Prynwch o siopau dibynadwy a chadwch gyfarpar gwresogi ymhell o ddefnyddiau hylosg eraill.

“Ein cyngor ydi byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr eich bod wedi gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod eich llwybrau dianc yn glir fel y gallwch chi a’ch teulu fynd allan mor gyflym â phosibl.

"Dyma gyngor syml i’ch helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:


- PEIDIWCH â gorlwytho socedi
- COFIWCH wirio gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio
- COFIWCH dynnu plygiau cyfarpar ar ôl gorffen eu defnyddio
- CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da                                                               - DATODWCH geblau estyn yn llawn cyn eu defnyddio.

 “Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan - ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk - i gael gwybod os ydych chi’n gorlwytho socedi a’ch helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen