Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i’r rhai sydd ag adeiladau sy’n cyfuno defnydd masnachol a phreswyl i ysytyried blaenoriaethu diogelwch tân

Postiwyd

Mae Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n apelio i’r rhai sy’n berchen, yn rheoli neu’n byw mewn adeiladau sy’n cyfuno defnydd masnachol a phreswyl i ystyried blaenoriaethu diogelwch tân.

Daw’r apêl wedi i gydweithwyr gyrraedd at dân a allasai fod yn un difrifol mewn fflat uwchben caffi cario bwyd allan, yn ogystal â chyflwyno nodyn o waharddiad mewn adeilad arall o fewn ychydig ddyddiau yn ystod y mis diwethaf.

Galwyd y diffoddwyr tân i adeilad caffi cario bwyd allan yn Nhywyn i ymateb i adroddiad am dân ar Fedi 19eg. Roedd preswylydd y fflat wedi deffro ac wedi arogli mwg yn y fflat, ac wedi llwyddo i gael ei deulu allan o’r fflat yn ddiogel, diolch byth. Roedd y siop yn llawn o fwg – doedd cynhesydd sglodion heb gael ei ddiffodd ac roedd hyn yn cynhyrchu llawer o fwg. Gwelwyd fod yna nifer o faterion ynglŷn â diogelwch tân yn yr adeilad, a bydd y staff yn cydweithio gyda pherchnogion y busnes i gywiro’r materion hyn.

Yn ystod yr un wythnos, cyflwynodd staff Diogelwch Tân Busnes orchymyn o waharddiad ar lesddaliwr yng Nghaergybi, wedi i bryderon ddod i’r amlwg am bobl oedd yn cysgu uwchben yr eiddo. O ganlyniad i nifer o faterion, yn cynnwys diffyg larwm tân neu ddiangfeydd tân o’r lloriau uwch, cyflwynwyd gwaharddiad i lesddaliwr yr adeilad yn gwahardd pobl rhag cysgu yno nes byddai’r materion wedi cael eu cywiro.

Dywedodd Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Fel rhan o ymgyrch y Gwasanaeth ar ddiogelwch tân mewn adeiladau trwyddedig a gynhaliwyd fis Chwefror, roeddem wedi atgoffa’r rhai sy’n berchen, yn rheoli neu’n byw mewn adeiladau sy’n cyfuno defnydd masnachol a phreswyl am bwysigrwydd ystyriaethau diogelwch tân sylfaenol.

“Mae’r digwyddiad hwn yn Nhywyn a’r gwaharddiad a gyflwynwyd yng Nghaergybi’n dangos y gall y bobl sy’n byw neu’n cysgu yn y mathau hyn o adeiladau wynebu’r risg o dân.

“Yn aml, mae yna ystafelloedd lle gall pobl fyw uwchben neu o fewn adeiladau masnachol. Gallai unrhyw dân fyddai’n digwydd yn y rhan fasnachol effeithio’r rhannau preswyl, ac yn ystod y nos, gallai ddigwydd heb i neb fod yn ymwybodol ohono nes byddai wedi gwaethygu.

“Heb ddull addas o wahanu’r tân rhwng y ddau ddefnydd o’r adeilad, gallai tân mewn siop arwain at golli cartref a heb drefniadau rhybudd o dân addas a dihangfa dân ddiogel, gallai tân mewn busnes arwain at golli bywyd hefyd. Rhaid i breswylwyr gael rhybudd o’r tân a gallu dianc o’r adeilad yn ddiogel.

Mae Swyddogion Diogelwch Tân yn gweld amodau peryglus allai effeithio ar y mannau lle mae pobl yn byw ac yn cysgu’n aml mewn adeiladau busnes , gan gynnwys:

- Mynediad i’r ystafelloedd cysgu drwy’r siop

- Nwyddau wedi eu storio yn y diangfeydd tân/ diangfeydd wedi eu blocio gyda biniau a deunyddiau gwastraff eraill 

-      Gormod o eitemau hylosg wedi crynhoi (e.e. bocsys cardfwrdd a chartonau bwyd)

-      Dim neu ddiffyg trefniadau rhybudd o dân

-        Allanfeydd wedi eu cloi neu’n anodd eu hagor

-        Tyllau yn y waliau a’r nenfydau allai adael i fwg ymledu

-        Safon wael o lanhau a chynnal a chadw system tynfa aer yn y gegin

-        Diffyg neu gyflwr anaddas offer diffodd tân

-        Diffyg neu gyflwr anaddas archwiliadau a chynnal a chadw offer trydanol

Ychwanegodd Bob: “Os ydych chi’n gyfrifol am adeilad o’r fath, rydych chi’n torri’r gyfraith os yw bywydau pobl mewn perygl. Gallem ni archwilio’ch adeiladau fel rhan o’n cyfrifoldeb ni i weithredu’r gyfraith.

“Gallwn gymryd camau gorfodaeth cyfreithlon, ffurfiol os methwch â gweithredu’r gwelliannau angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel. Os welwn risg tân difrifol, gallwn wahardd y defnydd o ran neu’r adeilad cyfan; mae’n bosib na fyddai’ch busnes yn gallu gweithredu ac o ganlyniad, byddai rhaid i’r bobl sy’n byw yn yr eiddo ddod o hyd i le arall i fyw. Yn ogystal, gallech dderbyn dirwy fawr neu garchariad am dorri cyfraith diogelwch tân”

Os dymunwch siarad gydag un o’n harbenigwyr Swyddogion Diogelwch Tân Busnes am gyngor RHAD AC AM DDIM, neu os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch pobl sy’n byw mewn adeiladau o’r fath, cysylltwch â’ch Swyddog Diogelwch Tân lleol:  

 

Gwynedd/ Môn:              01286 662999                   Gwynedd.Mon@nwales-fireservice.org.uk               

Sir y Fflint/ Wrecsam:     01978 367870                   Flintshire.wrexham@nwales-fireservice.org.uk               

Sir Ddinbych/ Conwy:    01745 352777                   Conwy.denbighshire@nwales-fireservice.org.uk            

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen