Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mam yn rhoi’r clod i larymau mwg am achub ei theulu’n dilyn tân mewn sychwr dillad yn eu cartref

Postiwyd

Mae mam teulu o Johnstown, lwyddodd i ddianc o dân a gychwynnodd mewn sychwr dillad yn eu cartref yn ystod oriau mân fore heddiw, yn annog pawb i wneud yn siŵr fod ganddynt larymau tân sy’n gweithio yn eu cartrefi.

Galwyd ar griwiau o Johnstown a Wrecsam i’r eiddo ar Heol Kenyon, Johnstown, Wrecsam am 00.12 o’r gloch heddiw, Dydd Llun, Hydref 11eg.

Bu’r diffoddwyr yn ymladd y tân mewn adeilad allanol sydd ynghlwm wrth y prif dŷ. Credir fod y tân wedi cychwyn mewn sychwr dillad, ac fe achosodd ddifrod i’r peiriant ac i’r dillad o’i fewn.

Roedd y teulu’n cysgu i fyny’r grisiau pan gawsant eu deffro gan sŵn y larwm mwg. Llwyddodd y teulu cyfan, sef Mam, Dad a’r tri phlentyn, i ddod allan o’r tŷ’n ddiogel cyn ffonio 999. Rhoddwyd therapi ocsigen i’r tad yn y fan a’r lle.

Dywedodd Sam Evans, mam y teulu ynghanol y digwyddiad: “Rwyf mor ddiolchgar fod gennym ni larymau mwg oedd yn gweithio yn eu lle – gan ein bod ni’n cysgu yn ein gwlâu i fyny’r grisiau, gallai’r tân fod wedi gwasgaru heb yn wybod i ni. Rydyn ni’n dyst i’r ffaith fod larymau mwg yn gallu achub bywyd, mewn gwirionedd.”

Ychwanegodd Tim Owen, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Siroedd Wrecsam a Fflint, “Mynychais y digwyddiad hwn neithiwr, a gwelais a’m llygaid fy hun y gwahaniaeth y gall larymau mwg ei wneud.

“Heb larymau mwg oedd yn gweithio, fe allen ni fod wedi bod yn delio â thrasiedi gwirioneddol. Rydych chi ar eich mwyaf bregus pan fyddwch chi’n cysgu i fyny’r grisiau, a dyna pam fod larymau mwg sy’n gweithio mor bwysig – yn rhoi rhybudd cynnar i chi fel eich bod chi a’ch teulu’n gallu dianc yn ddiogel oddi wrth y tân. Byddwn i’n cynghori pawb i brofi’r larymau mwg yn wythnosol, ac ystyried gwneud cynllun dianc rhag tân ar gyfer eich teulu fel bod pawb yn gwybod beth i’w wneud pe byddai tân yn yr adeilad.

“Credir bod y tân wedi cychwyn mewn sychwr dillad. Mae awgrymiadau pwysig am ddiogelwch gyda pheiriannau gwyn yn cynnwys:

  • Peidiwch â gorlwytho socedi trydan – mae’r watedd uchel mewn sychwr dillad yn golygu ei fod angen ei soced 13-amp drydan ei hun. Cadwch olwg am farciau poeth neu losgi, yn cynnwys gwirio unrhyw wifrau trydanol gweladwy.
  • Peidiwch â gadael peiriannu gwyn heb neb wrth law – peidiwch â defnyddio’r sychwr dillad tra byddwch allan o’r tŷ neu yn y gwely. Mae gan sychwyr dillad beiriannau pwerus gyda rhannau symudol cyflym all fynd yn hynod o boeth.
  • Sicrhewch fod y sychwr wedi ei awyru’n briodol. Gwnewch yn siŵr nad yw’r bibell awyru wedi plygu nac wedi ei blocio na’i gwasgu mewn unrhyw ffordd.
  • Glanhewch y ffilter bob tro wedi i chi ddefnyddio’r sychwr dillad.
  • Gadewch i bob rhaglen sychu, yn cynnwys y cylch oeri, orffen yn briodol bob amser cyn gwagu’r peiriant. Os fyddwch yn stopio’r peiriant ar ganol cylch, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r rhybuddion – os oes arogl llosgi neu fod y dillad yn teimlo’n boeth ar ddiwedd y cylch, peidiwch â defnyddio’r peiriant a threfnwch fod person proffesiynol yn dod i edrych arno.

“Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth gwiriad diogel, iach am ddim i’n holl drigolion – gall aelod o’r Gwasanaeth roi awgrymiadau am ddiogelwch tân, eich helpu i greu cynllun dianc rhag tân yn y cartref a darparu larymau newydd – y cwbl yn rhad ac am ddim.

“I gofrestru am wiriad diogel, iach am ddim, cysylltwch â’n rhif Rhadffon rhwng 9 a.m. a 5 p.m. ar
 0800 169 1234, e-bost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i’n gwefan www.northwalesfire.gov.wales.”

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen