Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Aelodau newydd o dîm arweinyddiaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru heddiw ei fod yn mynd i groesawu Dirprwy Swyddog Tân yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Bydd Stewart Forshaw, sy’n gweithredu fel Cyfarwyddwr Datblygiad y Gwasanaeth a Phrif Swyddog Tân Cynorthwyol dros dro yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Manceinion ar hyn o bryd, yn ymgymryd â’r rôl fel Dirprwy i’r Prif Swyddog Tân, Dawn Docx.

Mae Stuart Millington wedi cael ei apwyntio’n barhaol i’r rôl o Brif Swyddog Tân Cynorthwyol.

Bydd y ddau’n rhan allweddol o Dîm Arweinyddiaeth y Gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.

Bydd Stewart Forshaw, sy’n ddiffoddwr tân ac arweinydd profiadol, yn symud i Ogledd Cymru o Fanceinion wedi iddo weithio hefyd i Wasanaeth Tân ac Achub Sir Gaer am 28 mlynedd yn y gorffennol ar ôl cychwyn yno fel Prentis Diffoddwr Tân. Mae wedi gweithredu mewn nifer helaeth o roliau ar draws adrannau gwahanol ac wedi cymryd rhan allweddol yn rheoli nifer o brosiectau arwyddocaol.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd o gael ymgymryd â’r rôl hon yng Ngogledd Cymru ac rwyf yn edrych ymlaen at ymuno â gwasanaeth tân ac achub mor ardderchog.

“Does gen i ddim amheuaeth nad yw’r cyfnod hwn yn parhau i fod yn un heriol i bawb ohonom ond mae’n gyfnod hefyd o bosibiliadau arbennig sy’n cynnig cyfle unigryw i ni ail-feddwl sut yr ydym yn gweithio, ar gyfer dysgu carlam ac i arloesi.”

Dechreuodd Stuart Millington ei yrfa yng Ngwasanaeth Tân Clwyd, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n ddiweddarach, lle y gweithredodd mewn nifer o roliau cyn symud i weithio yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Manceinion am chwe blynedd gan ddychwelyd i Ogledd Cymru fel Rheolwr Ardal yn 2014 ac yna fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol dros dro. Meddai, “Rwyf yn falch i ddod yn aelod parhaol o’r tîm arweinyddiaeth ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Dirprwy newydd ac i wynebu rhai o’r heriau newydd wrth i ni edrych tua’r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rwyf yn falch ein bod wedi llwyddo i gwblhau’r apwyntiadau hyn gydag ymgeiswyr mor rhagorol. Rwyf yn hyderus y bydd y ddau’n cyfarfod â’r her o gynnal y safonau uchel y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn enwog amdanynt, ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r ddau ohonynt.”

Meddai Dawn Docx: “Mae’r ddau apwyntiad yma’n cychwyn pennod newydd i’r Gwasanaeth – mae gan y ddau unigolyn yma brofiad helaeth iawn ac fe ddônt â chyfoeth o wybodaeth i’r Gwasanaeth. Does gennyf yr un amheuaeth na fyddant yn gwneud cyfraniad gwych i amddiffyn ein cymunedau yng Ngogledd Cymru.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen