Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch canhwyllau yn dilyn tân yn y Fflint

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn apelio ar drigolion i gymryd gofal gyda chanhwyllau a fflamau noeth yn dilyn tân yn y Fflint y bore yma (Dydd Sadwrn 21ain Chwefror).

Aeth criwiau tân o’r Fflint a Threffynnon at y digwyddiad yn Salisbury Road, y Fflint am 02.56 o’r gloch y bore yma.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan gannwyll a oedd wedi cael ei gadael yn llosgi mewn ystafell wely ac o ganlyniad cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, cafodd dau o bobl driniaeth losgiadau yn y fan a’r lle a chafodd person arall driniaeth o ganlyniad i anadlu mwg.

Meddai Dave Roberts, Swyddog Cydymffurfiaeth: “Mae’r digwyddiad yn amlygu peryglon gadael canhwyllau’n llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt a pha mor hawdd ydi hi i danau ddigwydd.

“Roedd y preswylwyr yn ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i ddianc o’r tân y bore yma. Fe all canhwyllau roi eitemau eraill ar dân a datblygu’n dân sylweddol yn hawdd iawn. Pob blwyddyn cawn ein galw at nifer uchel o danau sydd wedi eu hachosi gan fflamau agored.  

“Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau te batri. Maent ar gael i’w prynu’n hawdd iawn ac maent yn llawer iawn mwy diogel.

Cynghorir trigolion i ddilyn y cyngor diogelwch isod os ydynt yn defnyddio canhwyllau:

  • Sicrhewch fod canhwyllau yn cael eu rhoi mewn cynhwysydd priodol, ar arwyneb gwastad ac ymhell o bethau a allai fynd ar dân - megis llenni
  • Ni ddylid gadael plant nac anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu tanio
  • Peidiwch byth â gadael cannwyll wedi ei thanio heb neb i gadw llygaid arni. Diffoddwch ganhwyllau cyn gadael ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu diffodd yn iawn cyn mynd i’r gwely
  • Cadwch y pwll gwêr yn rhydd rhag darnau o wic cannwyll, matsis a thameidiau bob amser
  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell sydd wedi ei hawyru’n dda, ond dylid osgoi ddrafftiau neu gerrynt awyr – bydd hyn yn achosi i’r gannwyll losgi yn anwastad, achosi huddygl a diferu gormodol
  • Dylid torri’r wic i ¼ modfedd bob amser cyn tanio’r gannwyll. Gall wiciau hir losgi’n anwastad, gan ddiferu neu fflachio
  • Peidiwch â symud canhwyllau unwaith y maent wedi eu tanio
  • Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr o ran amser llosgi a defnydd priodol
  • Rhowch ganhwyllau gydag arogl mewn cynhwysydd sy’n dal gwres bob amser gan fod y canhwyllau hyn wedi eu dylunio i droi’n hylif wrth losgi, i wneud y mwyaf o’r arogl
  • Llosgwch ganhwyllau ar fat a all wrthsefyll gwres bob amser
  • Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd gan y gall achosi i’r fflam fflachio
  • Defnyddiwch declyn pwrpasol neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae’n fwy diogel na chwythu sy’n medru achosi gwreichion.

 Ychwanegodd Dave: “Peidiwch byth â cheisio taclo’r tân eich hun. Rhybuddiwch pawb yn yr eiddo ac ewch allan, arhoswch allan a galw y gwasanaeth tân ac achub allan.”

“Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol eich bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.  Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’n hanwyliaid yn ddiogel trwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd a thrwy ymarfer eich cynllun dianc.”

Os hoffech archwiliad diogelwch tân rhad ac am ddim a larymau mwg am ddim yna ffoniwch rhadffôn 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen