Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am sigaréts yn dilyn tân yn yr Wyddgrug

Postiwyd

Mae’r Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa’r trigolion am beryglon taflu sigaréts yn ddifeddwl, ac mae’n canmol yr ysbryd cymunedol yn dilyn tân yn yr Wyddgrug yn hwyr neithiwr.

Aeth criwiau lleol o’r Wyddgrug a Bwcle at y tân mewn tŷ yng Nglan Alun, yr Wyddgrug am 23. 04 o’r gloch, a buont yn gweithio’n gyflym i atal y tân yn yr ystafell fyw rhag lledaenu.

Doedd neb adre ar adeg  tân, ond rhoddodd cymydog wybod am y tân drwy ffonio 999.

Dywedodd Paul Scott, yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Dyma enghraifft arall o beryglon taflu sigaréts yn ddifeddwl – yn ffodus, cyrhaeddodd y criwiau’n gyflym a gweithio’n effeithiol i atal y tân rhag lledaenu i weddill y tŷ neu i eiddo cyfagos.

“Criwiau Ar-Alwad yw criwiau’r Wyddgrug a Bwcle, ac maen nhw’n ymateb i ddigwyddiadau pan fyddan nhw’n cael gwybod drwy declyn hysbysu. Maen nhw’n unigolion sy’n ymrwymo i ddiogelu eu cymunedau lleol, gan weithio i atal tanau ac i ymateb i danau.

“Daeth yr alwad gan gymydog – mae mor bwysig gofalu am ein gilydd ac amddiffyn ein cymunedau. Yn gynharach y mis yma, mi wnes i lansio’r ymgyrch #achubwchfywyd, sy’n apelio ar drigolion i ofalu am berthnasau, ffrindiau a chymdogion sy’n agored i niwed.

“Mae deunyddiau ysmygu sy’n cael eu taflu yn un o’r prif bethau sy’n achosi tanau mewn cartrefi yng Ngogledd Cymru – mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr fod yr holl ddeunyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn ddiogel, yn enwedig cyn mynd i’r gwely.

"Os oes gennych berthnasau neu ffrindiau sy’n ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth yw’r peryglon posibl – drwy ddilyn y camau isod, gallan nhw helpu i leihau’r risg o dân yn y cartref yn gysylltiedig ag ysmygu.”

 - Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol na fydd yn troi drosodd ac sydd wedi’i wneud o ddeunydd na fydd yn llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi ar ôl i chi ei gorffen – diffoddwch hi yn llwyr.

 - Cymerwch ofal ychwanegol pan fyddwch wedi blino, wedi cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu wedi yfed alcohol. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu tra bydd eich sigarét yn dal i losgi

- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely – os ydych chi eisiau gorwedd, peidiwch â thanio sigarét. Gallech chi syrthio i gysgu a rhoi eich gwely ar dân.

- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigârs neu bibau heb gadw golwg arnynt – gallan nhw syrthio drosodd wrth losgi.

- Prynwch danwyr sigaréts a blychau matsis sy’n anodd i blant eu defnyddio – bob blwyddyn bydd plant yn marw drwy gynnau tanau gyda matsis a thanwyr. Cadwch nhw allan o afael plant.

- Rhowch y llwch mewn blwch llwch, byth mewn basged wastraff sy’n cynnwys sbwriel arall – a pheidiwch â gadael i’r llwch na stympiau sigaréts hel yn y blwch llwch.

Ychwanegodd Paul: “Rydym yn cynnig archwiliadau diogel ac iach i’n holl drigolion - bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi cynghorion ac awgrymiadau am ddiogelwch tân, bydd yn eich helpu i greu cynllun dianc o dân ac yn darparu larymau newydd – a bydd y cyfan yn rhad ac am ddim.

“I gofrestru eich hun neu rywun rydych chi’n ei adnabod i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, ffoniwch y llinell gymorth yn rhad ac am ddim 9-5pm Llun-Gwener ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk i gofrestru.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen