Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Cofrestru fy Offer

Postiwyd

Ydych chi wedi bos gyda’ch gilydd am beth amser?

Gwnewch hyn yn swyddogol ar gyfer dros 100 miliwn o offer cudd @registerymyappliance.org.uk

Rydyn ni i gyd yn dibynnu’n fawr ar ein hoergelloedd, peiriannau golchi a’n micro-donnau yn ein bywydau prysur, ond fyddai gwneuthurwr eich offer yn gwybod pa beiriannau sydd gennych chi a sut i’ch canfod pe deuai nam i’r golwg ar y model arbennig yna?

‘Na’ ydi’r ateb i oddeutu 100 miliwn o offer, y nôl arolwg diweddar. Ond, gellid cywiro hyn wrth i bobl dreulio ychydig o funudau i gofrestru eu hoff offer.

I nodi, Wythnos Cofrestru fy Offer (17 – 21 Ionawr), mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n annog y cyhoedd i gofrestru eu hoffer gwerthfawr niferus gan nad yw’r gwneuthurwyr yn gwybod am eu lleoliad pe byddai angen cywiriad am ddim, yn wahanol i’n ceir.

Tra mae’r cynnydd diweddar o brynu ar-lein (cynnydd o 70% wedi ei adrodd1) a dyfodiad offer clyfar fydd yn ei gwneud yn haws i olrhain nwyddau, y nôl amcangyfrifon y llywodraeth, mae gennym dros 212 miliwn2 o offer hanfodol i goginio, golchi dillad a llestri, golchi lloriau a storio’n bwyd. Ond mae ymchwil swyddogol3  wedi gweld hefyd, nad yw 49% ohonom erioed wedi cofrestru ein nwyddau, gan olygu na ellir olrhain oddeutu 100 miliwn o beiriannau mawr a chanolig hŷn.

Fel rhan o’r Ymgyrch mae Tân yn Lladd, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n annog pobl i wneud eu cartrefi’n fwy diogel drwy gofrestru eu hoffer ar registermyappliance.org.uk .

Meddai Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Wrth i bawb ohonom geisio defnyddio’n offer am nifer o flynyddoedd, mae cynnal a chadw a chofrestru’n peiriannau’n bwysicach fyth. Hyd yn oed os oedd yr offer yn y tŷ wedi i ni symud yno, os cawsom yr offer gan aelod o’n teulu neu wedi eu gosod ac anghofio amdanynt. Gellir cofrestru’n hawdd - hyd yn oed dan yr amgylchiadau hynny – gellir cwblhau’r broses ar registermyappliance.org.uk

heb daleb na heb wybod yn union o le cafodd yr offer eu prynu yn y lle cyntaf.”

Mae ‘Register My Appliance’ yn borth ar y we wedi ei datblygu gan Sefydliad Gwneuthurwyr Offer Domestig (AMDEA) er mwyn gwella data perchnogaeth drwy wneud y broses o gofrestru offer hen a newydd yn haws ac yn gyflymach. Mae mwy na 60 o brif frandiau’r wlad ar y wefan ac yn croesawu cofrestru offer hyd at 12 oed, neu hŷn weithiau. Mae awgrymiadau defnyddiol i helpu’r defnyddiwr i ddarganfod manylion pwysig y model, sy’n golygu mai’r unig wybodaeth sydd ei angen yw enw a chyfeiriad. Mae’r data’n mynd yn syth at y gwneuthurwr wedyn pe  byddai angen ail-alw’r offer.

Dangosodd arolwg genedlaethol ddiweddar gan gan Sefydliad Gwneuthurwyr Offer Domestig, mewn eiddo a rentwyd neu brynwyd, nad oedd y mwyafrif llethol (83%) o ymatebwyr yn gwybod y gallent gofrestru offer hŷn nad oeddent wedi eu prynu eu hunain. Y rheswm pennaf am beidio credu fod hyn yn bosib oedd nad oedd pobl yn gwybod pryd y prynwyr yr offer (59%) neu heb fod â thaleb amdanynt (48%) – nid yw un o’r rhesymau hynny’n berthnasol i gofrestru o ran diogelwch.

I wella diogelwch ac oes offer, mae’r porth ‘Register My Appliance’ hefyd yn cynnig:

  • Rhestr o gywiriadau ac adalwadau diogelwch offer
  • Awgrymiadau am ddiogelwch yn y cartref
  • Awgrymiadau sut i ofalu am offer
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen