Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nawr yn paratoi i agor ffenestr recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser.

Bydd cofrestru ar gyfer ceisiadau ar-lein yn agor am hanner dydd ddydd Gwener 22 Ebrill ac yn cau am hanner dydd ddydd Mawrth 26 Ebrill.

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau Anthony Jones: “Ar hyn o bryd mae gennym ymgyrch recriwtio barhaus ar gyfer swyddi diffoddwyr tân ar-alwad (neu system ddyletswydd wrth gefn) ar draws ein Gwasanaeth, lle rydym yn annog y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa ran-amser i gysylltu â ni ar unrhyw adeg o’r flwyddyn – gyda llawer o wybodaeth am hyn ar ein gwefan.

“Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi i lansio ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser - a bydd y ffenestr recriwtio hon ar agor ar gyfer cofrestriadau ar-lein dros gyfnod o bum niwrnod.

“Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n tîm. Credwn nad oes y fath beth â diffoddwr tân arferol ac anogir ceisiadau o bob cefndir. Mae’r gwasanaeth tân ac achub wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae rôl y diffoddwr tân wedi addasu i adlewyrchu hyn ac i gwrdd â gofynion y gymuned leol.

“Rydym yn recriwtio ar sail teilyngdod a gallu, felly beth bynnag fo’ch hunaniaeth o ran rhywedd neu’ch ethnigrwydd, os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen, cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau ar y broses recriwtio.

“Mae angen i’n diffoddwyr tân allu cyfathrebu â phob grŵp o fewn y gymuned ond yn enwedig y rhai sydd ‘mewn risg’, megis yr henoed a phlant. Maen nhw’n gallu newid o ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, i rôl fwy ataliol sy’n cynnwys addysgu ein cymunedau, ymweld â’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu gartref i sicrhau bod preswylwyr yn gwybod sut i gadw eu hunain yn ddiogel rhag tân a beth i’w wneud rhag ofn y bydd tân.

“Mae rôl diffoddwr tân modern felly yn amrywiol, yn heriol ac yn hynod werth chweil ac yn ddiweddar fe wnaethom gynnal diwrnodau blasu yng Ngorsaf Dân y Rhyl oherwydd ar gyfer rôl mor amrywiol mae angen gweithlu amrywiol arnom sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

“Rydym felly’n arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys menywod a phobl o LGBTQ+, a lleiafrifoedd du ac ethnig. Rydym hefyd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg a dysgwyr gan ein bod eisiau darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n holl gymunedau.

“Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ychwanegol. Mae gan ein gwefan hefyd gyfoeth o wybodaeth i ymgeiswyr am yr hyn sydd ei angen i ddod yn ddiffoddwr tân llawn amser.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen