Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y peryglon sy’n gysylltiedig â gadael sigaréts yn ddiofal yn cael sylw ar ôl cwest i dân ym Mancot

Postiwyd

Mae’r peryglon sy’n gysylltiedig â gadael sigaréts yn ddiofal wedi cael sylw yn dilyn cwest i dân trasig ym Mancot fis Tachwedd diwethaf lle collodd dynes 80 oed ei bywyd.

Aethpwyd â Mrs Vera Alice Louise Brindley i’r ysbyty mewn ambiwlans gyda llosgiadau yn dilyn tân yn ei chartref ar 15 Tachwedd 2019 ond yn anffodus bu farw yn yr ysbyty.

Daeth y cwest yr wythnos hon (dydd Llun Mai 9fed) i’r casgliad fod y tân wedi cynnau ar ddamwain.

Galwyd criwiau o Lannau Dyfrdwy a Bwcle at yr eiddo ar Prince William Gardens ac achub Mrs Brindley o’r tŷ. Bu farw yn ddiweddarach yn anffodus.

Cynhaliwyd ymchwiliad i’r tân a dod i’r casgliad fod y tân yn fwy na thebyg wedi cael ei achosi gan sigarét a oedd wedi cael ei gadael yn ddiofal.

Wrth siarad ar ôl y cwest, dywedodd Mark Kassab o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sef yr ymchwilydd i’r tân: “Yn gyntaf, hoffwn gydymdeimlo’n llwyr â’r teulu a’r ffrindiau sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad trasig hwn. Roeddwn yn ddiolchgar yn ystod y cwest i glywed y clod gan deulu Mrs Brindley i’n staff a’r criwiau a aeth at y digwyddiad - mae eu gwerthfawrogiad ar yr adeg anodd hon yn golygu cymaint i bob un ohonom sy’n gweithio i amddiffyn ein cymunedau lleol.

“Mae’r digwyddiad hwn yn dangos bod tân yn gallu digwydd yn unrhyw le, unrhyw bryd ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd cael larymau mwg gweithredol yn eich cartref, a’u profi’n rheolaidd.

“Roedd ein hystafell reoli wedi cael gwybod am y tân drwy system larymau mwg. Mae systemau cysylltiedig yn cael eu monitro 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn a gallant gysylltu â’n hystafell reoli os yw larymau mwg yn seinio – gall teulu a ffrindiau gael cysur o wybod y bydd rhywun ar gael mewn argyfwng. Mae’n hawdd cael gafael ar systemau o’r fath.

 “Credir mai’r rheswm mwyaf tebygol dros y tân oedd sigarét wedi cael ei gadael yn ddiofal.

"Drwy ddilyn y rhagofalon syml isod, gall ysmygwyr sydd ddim eto’n teimlo’n barod i roi’r gorau i’w sigaréts helpu i atal tân yn eu cartref:

  • Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch wedi blino, yn cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu wedi bod yn yfed alcohol. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu tra mae eich sigarét yn dal i losgi
  • Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely – os ydych eisiau gorwedd, peidiwch â thanio sigarét. Gallech chi syrthio i gysgu a rhoi eich gwely ar dân
  • Peidiwch byth â gadael sigarét, sigâr neu bibell heb gadw golwg arni – gall droi drosodd wrth losgi
  • Prynwch danwyr a blychau matsis sy’n anodd i blant eu defnyddio – bob blwyddyn, mae plant yn marw drwy gynnau tanau gyda matsis a thanwyr. Cadwch y rhain yn rhywle na all plant ei gyrraedd
  • Defnyddiwch flwch llwch trwm priodol sy’n methu troi drosodd yn hawdd ac sydd wedi cael ei wneud o ddefnydd sydd ddim yn llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi ar ôl i chi ei gorffen – diffoddwch hi yn llwyr
  • Rhowch y llwch mewn blwch llwch, byth mewn bin sy’n cynnwys sbwriel arall – a pheidiwch â gadael i lwch neu fonion sigaréts gronni yn y blwch

"Mae larymau mwg yn achub bywydau – mae’r larwm mwg yn rhoi rhybudd cynnar sy’n gallu rhoi munudau hollbwysig i’ch helpu i ddianc heb anaf. Mae’n hanfodol hefyd eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cynllunio ac ymarfer cynllun dianc, a bod hwnnw’n glir heb rwystrau ac yn eich galluogi i fynd allan o’ch cartref yn gyflym a diogel os bydd tân.

“I gael archwiliad diogel ac iach, ffoniwch y rhif rhadffôn ar 0800 169 1234, anfonwch neges e-bost i cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i’n gwefan: www.tangogleddcymru.llyw.cymru.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen