Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol Cadeirydd Newydd ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Mae Cynghorydd Sir Ynys Môn, Dylan Rees wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar Ddydd Llun 20fed Mehefin.


Mae’r Cynghorydd Rees wedi bod yn aelod o’r Awdurdod Tân ac Achub ers 2017 ac mae’n gyn Arolygydd Heddlu.


Wrth gael ei ethol i wasanaethu fel Cadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf, diolchodd y Cynghorydd Rees i'r aelodau am ymddiried ynddo a thalodd deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn ymddeol a Chynghorydd Bwrdeistref Sirol Conwy Peter Lewis.


Meddai: “Mae’n fraint cael fy ethol yn Gadeirydd a gallaf sicrhau’r aelodau fy mod yn gwbl ymroddedig i gyflawni’r rôl hon hyd eithaf fy ngallu.


“Fy niolch i’r Cynghorydd Lewis am ei waith rhagorol. Rwy’n falch o allu adeiladu ar y sylfaen y mae wedi’i gosod, ar ôl gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd ers 2019.


“Hoffwn hefyd groesawu aelodau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd i’r cyfarfod hwn, sy’n cynrychioli’r cyfarfod cyntaf ers yr etholiadau llywodraeth leol diweddar ac edrychaf ymlaen at gydweithio â’n gilydd.”


Mae’r Cynghorydd Rees wedi cyhoeddi y bydd yn ceisio ymweld â’ nifer o orsafoedd tân dros y misoedd nesaf er mwyn cyfarfod â staff a dysgu mwy am waith gweithredol y Gwasanaeth.


Cafodd Cynghorydd Sir y Fflint Paul Cunningham, cyn-ddiffoddwr tân o ogledd Cymru, ei bleidleisio i fod yn Ddirprwy Gadeirydd newydd.


Wrth ymgymryd â’r rôl hon, dywedodd y Cynghorydd Cunningham: “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau i helpu i amddiffyn cymunedau Gogledd Cymru.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen