Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan mewn wythnos o weithredu i helpu pobl sy’n galw i wybod ble yn union y maent mewn argyfwng - #KnowExactlyWhere - gyda what3words

Postiwyd

Rhwng dydd Llun 25ain Gorffennaf a dydd Sul 31ain Awst, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch haf #KnowExactlyWhere i godi ymwybyddiaeth am ap what3words, sy’n rhad ac am ddim, ac i ddweud sut i’w ddefnyddio’n effeithiol mewn argyfwng.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn defnyddio what3words ers 2019. Mae wedi cael ei ddefnyddio sawl gwaith i’n helpu i sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu hanfon i’r union le y mae angen cymorth, yn gyflym.

Mae what3words wedi rhannu’r byd yn gridiau 3 metr sgwâr, ac wedi rhoi tri gair ar hap i bob un, sef cyfeiriad what3words. Mae ///configure.audio.plodding er enghraifft, yn cyfeirio at le penodol ar yr A449 ychydig y tu allan i Landenni yn Sir Fynwy.

I’r lle penodol hwn y cyfeiriwyd ambiwlans gan fam yn cael pwl o asthma tra’n gyrru gyda’i merch saith oed. Tra’n cael trafferth anadlu, llwyddodd i ddweud y tri gair wrth y tîm Ambiwlans Cymru, cyn i’w merch orfod parhau â’r alwad. Drwy ddefnyddio’r cyfeiriad what3words, llwyddodd y parafeddygon i ddod o hyd i’r lleoliad yn gyflym, ac achub ei bywyd.

‘Ble mae’r argyfwng?’ yw un o’r cwestiynau cyntaf a gewch wrth ffonio 999 ond gall fod yn anodd disgrifio’n union i ble dylai’r gwasanaethau brys fynd. Gall argyfyngau ddigwydd yn unrhyw le, fel traeth anghysbell yn yr Alban neu ar ochr yr M1 neu yng nghanol Hyde Park. Yn aml, dydy gwasanaethau ddim yn gallu gwybod ble rydych chi yn awtomatig ac mae’n anodd esbonio dros y ffôn. Ar y gorau, mae hyn yn defnyddio adnoddau. Ar y gwaethaf, gall olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim i iOS ac Android ac mae’n gweithio oddi ar lein – felly mae’n berffaith i’w ddefnyddio mewn rhannau o’r DU sydd heb gysylltiad data dibynadwy, megis traethau, parciau cenedlaethol a meysydd gwersylla – sy’n arbennig o boblogaidd yn ystod yr haf. Hefyd, gellir defnyddio what3words drwy’r map ar-lein yn what3words.com. Mae’r ap ar gael mewn 51 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le yn y byd.

Erbyn hyn, mae what3words yn cael ei ddefnyddio gan fwy nag 85% o wasanaethau brys yn y DU – heddlu, tân ac ambiwlans – ac mae’n adnodd pwysig ar gyfer argyfyngau. Er nad ei fwriad yw cymryd lle offer diogelwch angenrheidiol ar gyfer yr awyr agored, teithiau gwersylla ac anturiaethau eraill yn yr awyr agored, mae’r dechnoleg wedi dod yn bartner defnyddiol i’r gwasanaethau brys, gan arbed amser ac adnoddau i weithwyr anfon a gweithwyr ymateb.

Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu hyfforddi i gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y lleoliad gan bobl sy’n galw, ac maent yn gallu defnyddio llawer o dechnolegau a dulliau gwahanol i’w helpu i wybod ble mae’r bobl sy’n ffonio – ac un o’r rheini yw what3words.

Dywedodd Rhiannon Smith, Pennaeth yr Ystafell Reoli yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Rydym yn annog y cyhoedd i lawrlwytho’r ap what3words i’w ffonau clyfar.

“Gellir defnyddio’r ap mewn argyfyngau ac mae hefyd yn gymorth mawr i unrhyw un sydd eisiau gwybod yn well ble maent.

“Gall what3words leihau faint o amser sy’n cael ei dreulio yn chwilio ble yn union y mae tân, gan alluogi’r criwiau i fynd ati i ddiffodd y tân cyn iddo ledaenu.

“Mae’n wych gweld technoleg newydd yn cael ei datblygu, a honno ar gael i’r rhan fwyaf ohonom, a’i bod yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr ar adeg o angen.”

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.knowexactlywhere.com

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen