Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio fideo newydd - Canllaw i dirfeddianwyr

Postiwyd

Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu cefn gwlad Cymru rhag tanau gwyllt

Mae gwasanaethau tân ac achub Cymru yn lansio fideo newydd heddiw am 11.00 o'r gloch yn y Ffair Aeaf ar faes y sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-muallt i roi canllaw cam wrth gam i dirfeddianwyr ar sut i gynnal llosgi dan reolaeth yn ddiogel.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tân yn gyfrifol am ddifrodi miloedd o hectarau o dir cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.
Mae tri gwasanaeth tân ac achub Cymru eisiau parhau i weithio gyda chymunedau lleol, ffermwyr a thirfeddianwyr i amddiffyn ein tirwedd werthfawr yng Nghymru.

Yng ngogledd Cymru, fel yr eglura Tim Owen, Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau Ardal y Dwyrain ac arweinydd Tanau Gwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Mae tanau gwyllt yn cymryd adnoddau y gall fod eu hangen mewn argyfwng arall, ac rydyn ni wedi gweld sut mae tanau gwyllt yn rhoi bywydau mewn perygl – bywydau ein cymunedau yn ogystal â’n diffoddwyr tân.

"Ym mis Mawrth 2022, bu cynnydd sylweddol yn nifer y tanau gwyllt i ni ymateb iddyn nhw yng ngogledd Cymru – o gyfartaledd pedair blynedd o 27 tân i 100 o danau ym mis Mawrth yn unig. Mae hynny'n gynnydd o 264%. Mae'r darlun hwn yn debyg ar draws Cymru gyfan.

"Dyna pam mae cydweithio i atal y tanau hyn yn bwysicach nag erioed – ac rydan ni'n gweithio efo ystod o sefydliadau, ynghyd â gwasanaethau tân ac achub eraill ledled Cymru, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y difrod y mae tanau gwyllt yn gallu ei achosi i rai o'n tirweddau ucheldirol mwyaf eiconig.

"Rydan ni hefyd yn gweithio efo tirfeddianwyr a ffermwyr lleol – roedd llawer o'r tanau gwyllt ucheldirol ym mis Mawrth y llynedd wedi digwydd o ganlyniad i dechnegau rheoli tir fel gwaith llosgi gweunydd rhagnodedig yn mynd allan o reolaeth, neu drwy losgi tocion yn rhy agos at weundir.
"Yn ogystal â chyfarfod tirfeddianwyr mewn marchnadoedd ffermwyr lleol, rydan ni hefyd wedi cynhyrchu'r canllaw fideo cam wrth gam yma ar sut i gynnal gwaith llosgi dan reolaeth mewn ffordd gyfrifol. Gobeithio y bydd yn helpu i sicrhau na fydd digwyddiadau Mawrth 2022 yn cael eu hailadrodd flwyddyn nesaf."

Mae'r fideo’n cefnogi gwybodaeth a chyngor Llywodraeth Cymru a’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru ar sut i losgi dan reolaeth. Gall ffermwyr a thirfeddianwyr ar draws Cymru losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd ucheldirol) ond rhaid iddyn nhw gael Cynllun Llosgi er mwyn sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae yn erbyn y gyfraith i losgi y tu allan i'r tymor llosgi a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Yn ôl Graham Berry, Swyddog Maes Gweundiroedd ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn Sir Ddinbych:

"Yn ystod haf 2022, cofnodwyd y tymhereddau uchaf erioed, ac mae tanau gwyllt bellach yn cael eu hadnabod yn swyddogol fel perygl mawr ar y Gofrestr Risg Genedlaethol o Argyfyngau Sifil, ac yn adroddiad Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd ar Iechyd 2023 y DU.

"Gall effaith tanau gwyllt fod yn ddinistriol – maen nhw’n difrodi tir ac eiddo, niweidio bywyd gwyllt a'r amgylchedd, rhyddhau CO2 a llygryddion i'r atmosffer a chyrsiau dŵr, gan effeithio ar gymunedau a busnesau lleol.

"Mae diffodd tanau gwyllt yn waith anodd a chostus iawn, ac mae’n gofyn am lawer o bobl ag offer arbenigol yn gweithio dan amodau peryglus ac anodd.

"Mae'r costau yn sgil tanau gwyllt yn enfawr, gan gynnwys y gwaith adfer, ffermwyr a busnesau’n colli tir a’r effaith negyddol ar gymunedau.

"Gobeithio y bydd tirfeddianwyr yn gallu dilyn y canllawiau syml yn y fideo yma i'n helpu i leihau canlyniadau tanau gwyllt."

Yn ôl Kevin Yates, Pennaeth Troseddau Tân a Diogelwch yn y Cartref Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

"Rydyn ni’n canolbwyntio ar leihau nifer y tanau glaswellt ac effaith y rhain ar ein cymunedau, ein tirwedd a’n bywyd gwyllt.

Drwy gyfrwng gwaith partneriaeth effeithiol rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i gymryd mesurau ataliol i reoli tanwydd – a thrwy drafod â thirfeddianwyr, rydyn ni’n achub ar y cyfle i weithio gyda’n gilydd i roi cyngor a chefnogaeth ar gynlluniau rheoli tir cadarn ar gyfer gwaith llosgi rhagnodedig.

“Drwy reoli’r tanwydd yn effeithiol, a chael cynlluniau rheoli tir manwl, byddwn yn lleihau difrifoldeb tanau glaswellt; bydd hyn yn ogystal â’n rhaglenni addysgol, yn helpu i leihau nifer y tannau glaswellt yn y dyfodol a’u hatal rhag lledaenu.”

Meddai Richie Vaughan-Williams, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Rydyn ni am barhau i warchod y tirwedd, y glaswelltir a’r ardaloedd cefn gwlad rydyn ni oll mor ffodus i'w cael ar ein stepen drws.

"Gall cydweithio a rhannu ein gwybodaeth helpu i gyfyngu ar y niwed y gall tanau gwyllt ei achosi."

"Rydyn ni’n deall bod rhagnodi gwaith llosgi yn ffordd effeithiol o reoli llwyth tanwydd a chynefinoedd, er budd bywyd gwyllt, ffermio ac i gael tirwedd sy’n well am wrthsefyll tanau gwyllt. Mae cynnal gwaith llosgi sydd wedi'i gynllunio a'i reoli'n dda ac sydd ddim yn mynd allan o reolaeth yn well i bawb. Mae’r gwasanaethau tân ac achub ar gael i roi cyngor yn rhad ac am ddim ar sut i wneud hyn yn ddiogel."

I gael gwybodaeth a chyngor ar reoli gwaith llosgi a sut i gynnal gwaith llosgi dan reolaeth mewn modd cyfrifol, ewch i:

www.gov.wales/rheoli'r tir

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen