Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sgwteri Symudedd

Sgwteri Symudedd

 

Mae gallu symud o gwmpas ar sgwter yn gallu newid bywyd y defnyddiwr. Gall adennill annibyniaeth a gollwyd ac atal y teimlad o fethu gwneud dim. Fodd bynnag, cyn prynu un rydym yn argymell eich bod yn ystyried ambell beth, gan gynnwys addasrwydd corfforol. Argymhellir yn fawr eich bod yn gwneud eich gwaith cartref cyn buddsoddi mewn sgwteri symudedd trydanol.

 

Yn dilyn digwyddiadau yn ddiweddar pan fo sgwteri symudedd wedi mynd ar dân, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi teimlo bod angen sicrhau bod perchnogion yn ymwybodol o’r risgiau posibl wrth ddefnyddio sgwteri symudedd. Gan fod sgwteri symudedd yn cael eu defnyddio’n eang, mae eu poblogrwydd yn dechrau creu problemau mewn adeiladau sydd heb gael eu cynllunio ar gyfer cerbydau o’r fath. Os bydd sgwteri symudedd yn mynd ar dân, byddant yn gallu rhyddhau llawer o fwg a nwyon gwenwynig iawn.

 

Storio Sgwteri Symudedd mewn Ardaloedd Cyffredin o Flociau o Fflatiau a Llety Gwarchod.

 

Gellir, a dylid, storio a gwefru sgwteri symudedd o fewn fflatiau’r preswylwyr.

 

Os na ellir storio a gwefru sgwteri symudedd y tu mewn i fflatiau’r preswylwyr, argymhellir y dylid eu storio a’u gwefru mewn cyfleuster storio pwrpasol. Bydd angen i gyfleusterau o’r fath gael eu hawyru, bydd angen larwm mwg a goleuadau argyfwng yno, a dylid gosod system llethu tân.

 

Dylai storfeydd a mannau gwefru allanol fod 6 metr o leiaf o’r adeilad er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd tân yn lledu mewn argyfwng. (Dylid cynnal arolwg o losgi bwriadol i ganfod unrhyw broblemau posibl).

 

Ni ddylid storio sgwteri symudedd mewn coridorau neu ardaloedd cyffredin eraill sy’n rhan o’r llwybr dianc o’r adeilad. (Mae’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r ardaloedd hyn). Ni ddylid, o dan unrhyw amgylchiadau, wefru sgwteri symudedd mewn coridorau ac ardaloedd cyffredin. 

 

Dylai preswylwyr wirio eu cytundeb tenantiaeth ynglŷn â chaniatáu sgwteri symudedd yn eu hadeiladau.

 

Dylai Rheolwyr Safleoedd/Personau Cyfrifol adolygu eu Hasesiadau Risg Tân ar ôl i sgwteri symudedd gael eu cyflwyno i’r safle.

 

Sgwteri Symudedd yn y Cartref

 

  • Peidiwch byth â storio sgwteri symudedd ble gallent eich rhwystro rhag mynd allan os bydd tân yn eich cartref
  • Dylid storio a gwefru’r sgwter symudedd mewn ystafell yn y cartref.
  • Dylai’r ystafell fod â drws sylweddol, dylid ei chadw ar gau a dylai fod larwm mwg yno.
  • Dim ond yn ystod oriau golau dydd y dylid ailwefru, ddim dros nos (dylid defnyddio teclynnau amseru â phlwg er mwyn peidio â gorwefru’r batris).
  • Os bydd eich sgwter symudedd yn cael ei storio am gyfnod, dylid tynnu’r batri allan.

 

Diogelwch Tân ar gyfer Sgwteri Symudedd

 

  • Rhaid gwefru pob sgwter symudedd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
  • Dylai pob sgwter symudedd gael ei wasanaethu’n rheolaidd gan fecanig sydd â chymwysterau addas ac a fydd yn rhoi adroddiad o unrhyw broblemau a allai fod angen rhagor o waith.
  • Dylai pob sgwter symudedd ac unedau gwefru gael prawf PAT diweddar er mwyn sicrhau bod yr offer gwefru mewn cyflwr da.
  • Gan ei fod yn offer cludadwy, dylai sgwter symudedd gael Nod CE i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelwch Ewropeaidd.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen