Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn apelio ar drigolion lleol i’w helpu i fynd i’r afael â thanau bwriadol ym Maesgeirchen

Postiwyd

 

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion ym Mangor atal y duedd o gynnau tanau bwriadol yn ardal  Maesgeirchen rhag troi'n broblem ddifrifol.

Galwyd diffoddwyr tân i dân bwriadol mewn bin yn Rhodfa Penrhyn ar 29ain Mawrth ac ar fynydd Bangor ar 30ain Mawrth.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Yn hanesyddol gwyddom  fod tanau bwriadol wedi bod yn broblem yn ardal Maesgeirchen, yn enwedig ym mis Ebrill a mis Mai.  Eleni, rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r broblem cyn iddi gychwyn, drwy addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cynnau tannau bwriadol ac apelio ar i drigolion lleol  awchwn am ddrwgweithredwyr.

"Rydym wedi buddsoddi mewn gweithgareddau dargyfeiriol yn yr ardal ac rydym yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i rannu ein negeseuon.

"Hoffwn fachu ar y cyfle i erfyn ar i rieni fod yn ymwybodol o ble mae eu plant yn mynd a phwyso arnynt bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

"Mae tanau bwriadol fel tanau glaswellt yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth.  Gall hyn ein hatal rhag mynychu argyfyngau brys.

"Cofiwch - mae gynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i roi terfyn ar danau bwriadol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.

Cynghorir unrhyw un sydd gan wybodaeth am droseddau o'r fath gysylltu â Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen