Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dychwelyd i wasanaeth arferol wedi streic y diffoddwyr tân

Postiwyd

 

Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 4 o'r gloch heddiw (25ain Medi).

 

Cafodd y streic ei chyhoeddi'r wythnos diwethaf ac roedd wedi ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.

 

"Fel y disgwylid, fe ddewisodd nifer uchel o ddiffoddwyr tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynd ar streic, ac o ganlyniad fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni.

 

"Nid oeddem yn gallu ymateb i ddigwyddiadau yn yr un modd ag arfer, ac o ganlyniad bu'n rhaid i ni ganolbwyntio ar anfon adnoddau i'r argyfyngau mwyaf difrifol.

 

"Fe weithiodd y trefniadau a roesom ar waith i gyflenwi gwasanaeth yn ystod y streic  yn dda.  Cafodd ein trefniadau parhad busnes cyfarwydd eu rhoi ar waith yn effeithlon yn syth wedi i'r streic gychwyn ac unwaith y daeth y streic i ben fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer.

"Nid oedd nifer y galwadau a dderbyniom yn wahanol i'r hyn yr ydym yn arfer ei dderbyn ganol pnawn yn ystod yr wythnos.  Rydw i'n falch ein bod wedi llwyddo i gynnal y ddarpariaeth yn yr ardaloedd mwyaf poblog yng Ngogledd Cymru.  Roedd yr injans wedi eu gosod mewn mannau strategol ac felly roeddem yn hyderus y gallem ymateb i ddigwyddiadau ar hyd a lled y rhanbarth.

"Cawsom ein galw i dân bwriadol, sydd yn siomedig iawn gan bod tanau o'r math yma yn draul ar ein hadnoddau.

"Hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad a hoffwn nodi proffesiynolrwydd ein staff gweithredol yn ogystal - yn naturiol, mae gan bobl deimladau cryf ar y mater ond rwyf yn falch o gael dweud eu bod wedi ymddwyn yn bwyllog drwy gydol y streic.  Byddwn yn parhau i weithio'n lleol er mwyn cynnal ein perthynas ddiwydiannol gyda'r undeb a thrafodaethau gyda chynrychiolwyr o'r undeb.  Rydym yn gobeithio y bydd yr FBU a'r Llywodraeth yn llwyddo i ddatrys yr anghydfod yn ddiogel ac yn dderbyniol ar gyfer y naill barti.

"Er bod y streic drosodd, nid ydym yn gwybod eto a yw diffoddwyr tân yn bwriadu cymryd rhan mewn achos arall o weithredu diwydiannol, felly rwyf am atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd  a pharhau i annog pawb i gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel;

Atal sydd orau - talwch sylw ychwanegol i ddiogelwch tân yn y cartref

  • Genwch yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol - galwch 0800 169 1234 i drefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim neu cysylltwch â ni drwy fynd i www.larwmmwgamddim.co.uk
  • Os bydd tân -  ewch allan, arhoswch allan a galwch  999
  • Peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun."

 

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Rhestr o ddigwyddiadau yr aethom atynt yn ystod y streic:

 

  • 1 gwrthdrawiad ar y ffordd, neb yn gaeth yn y cerbyd, fe anfonwyd 1 injan i'r digwyddiad
  • 1 tân mewn tŷ - anfonwyd 2 injan
  • 1 teiars a oedd wedi eu rhoi ar dân yn fwriadol mewn beudy - fe anfonwyd un injan  

 

Galwadau eraill

  • 1 yn rhoi gwybod am losgi dan reolaeth
  • 1 yn rhybuddio eu bod am brofi'r larwm tân
  • 2 yn rhybuddio am synwyryddion diffygiol
  • 1 Galwad Tân Awtomatig - cadarnhawyd nad oedd tân
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen