Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn lansio cynllun peilot i weithio gyda’i gilydd i achub bywydau

Postiwyd

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cydweithredu i lansio cynllun peilot newydd ledled Cymru gan weithio gyda’i gilydd i achub bywydau.

 

Mae Llywodraeth Cymru a’r holl gyrff gwasanaeth cyhoeddus yn ymroddedig i wella ansawdd gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd yng Nghymru. Un o’r prif alluogwyr o ran gwella yw lefel uwch o bartneriaeth yng Nghymru i gyflwyno gwasanaethau sy’n diwallu anghenion lleol yn well ac yn gwneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Mae’r peilot yn cael ei lansio heddiw gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru i ddilyn yn eu hardaloedd gwasanaeth eu hunain yn y flwyddyn newydd.

 

Y bwriad yw gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i gymunedau Cymru a disgwylir y bydd y peilot yn parhau ledled Cymru tan fis Mehefin 2016.

 

Bydd yn digwydd mewn ardaloedd ymateb daearyddol penodol ac efallai y bydd aelodau’r cyhoedd sy’n byw yn yr ardaloedd hyn sydd angen cymorth mewn argyfwng ar gyfer digwyddiad meddygol yn derbyn ymateb gan eu Gwasanaethau Tân ac Achub lleol.

 

Gan siarad ar ran y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, meddai Prif Swyddog Tân Cynorthwyol De Cymru, Andrew Thomas: “Mae’r peilot hwn yn gyfle i ni weithio’n agosach â’n gilydd er budd y cyhoedd yng Nghymru, gan wella gwaith cydweithredol rhwng y gwasanaethau argyfwng i sicrhau gwell ymateb gweithredol, cynyddu gwasanaethau gweithredol a gwella gwytnwch – ychwanegu gwerth go iawn am arian tra’n gweithio’n fwy effeithiol ac effeithlon.”

 

Meddai Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Richard Fairhead: “Hoffem sicrhau trigolion ledled Cymru na fydd unrhyw leihad o gwbl mewn ymateb i argyfwng a chyflwyniad gwasanaeth, gan y gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru na chan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod cyfnod y cynllun peilot.

 

“Bydd y peilot yn golygu anfon ymatebwyr sydd wedi eu hyfforddi’n addas a fydd yn gweithio i ddiogelu bywyd nes bydd ambiwlans neu gerbyd ymateb cyflym yn cyrraedd.

 

“Bydd union natur y peilot yn amrywio ym mhob rhanbarth Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ond bydd y nod cyffredinol o weithio gyda’n gilydd i achub bywydau yn agwedd gyffredin yn y tri rhanbarth.”

 

Meddai Greg Lloyd, Pennaeth Gweithrediadau Clinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae pob eiliad yn cyfrif mewn argyfwng. Os gall ein cydweithwyr yn y gwasanaeth tân gyrraedd y lleoliad cyn un o’n ambiwlansys ni, medrent ddechrau rhoi triniaeth i achub bywyd – mae hynny’n mynd i wella cyfle’r claf hwnnw o oroesi.

 

“Mae’r holl gyd-ymatebwyr yn cael eu hyfforddi i roddi triniaeth sy’n achub bywyd, gan gynnwys CPR a defnyddio diffibriliwr. Rhaid i ni bwysleisio na fyddant yn disodli ymateb arferol parafeddyg mewn car ymateb cyflym neu ambiwlans argyfwng, ond bydd yn ffurfio rhan o agwedd integredig tuag at roddi triniaeth ar unwaith, i achub bywyd cleifion yn ein cymunedau.

“Mae cyd-ymatebwyr yn chwarae rôl bwysig gyda staff rheng flaen ambiwlans o ran gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael yr help priodol yn gyflym ac yn effeithlon, ac maent yn rhan o deulu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.”

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, bydd y peilot yn ymgorffori diffoddwyr tân o’r tair system ddyletswydd – amser cyflawn (amser llawn), rhan-amser a chriwiau dydd o orsafoedd tân dethol ledled ardal y gwasanaeth gan gynnwys Glannau Dyfrdwy, Bae Colwyn, Caergybi, Treffynnon, Llangollen. Dolgellau a Phwllheli.

 

Bydd timau cyd-ymateb yn cael eu hanfon gan ystafell reoli’r gwasanaeth tân, gyda chyfarwyddiadau gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn anfon peiriannau tân fel rhan o’r Peilot Cyd-ymateb ond bydd criwiau o ddau yn cael eu hanfon mewn car, ac yn mynd i ddigwyddiadau ar gyflymder ffordd arferol ac nid dan amodau golau glas.

 

Yn y cerbydau bydd offer arbenigol yn galluogi i’r staff sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig i ymateb i set o amodau clinigol penodol lle gallant hwy gyrraedd yn gyntaf, a lle byddant yn ychwanegu’r gwerth mwyaf yn gymesur â’u hyfforddiant a’u offer. Mae hyn yn cynnwys trawiadau ar y galon, pobl sy’n anymwybodol neu’n tagu, a gwaedu catastroffig.

 

Mae’r peilot yn dilyn cynlluniau tebyg sy’n cael eu lansio gan 43 o wasanaethau tân ac achub ledled y DU. Ar ddiwedd cyfnod y peilot, bydd gwerthusiad manwl yn digwydd er mwyn canfod os oedd y peilot yn llwyddiannus. 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen