Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dyn o dân yn y cartref

Postiwyd

Cafodd dau griw o’r Rhyl ac Abergele eu galw at dân yn y cartref ar Ffordd y Glannau, y Rhyl am 11.35 o’r gloch heddiw (Dydd Llun 1af Ebrill).

Mae un criw yn dal i fod yn bresennol ond mae’r tân wedi ei ddiffodd erbyn hyn.

Cludwyd y dyn a achubwyd i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen