Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn Ddiogel y Nadolig hwn - Cadwch ddiogelwch mewn cof!  

Postiwyd

Gyda goleuadau Nadolig yn cael eu rhoi ymlaen ledled y rhanbarth mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion i ddilyn ambell gyngor syml i gadw’n ddiogel dros yr ŵyl.                          

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rwy’n gwybod y bydd trigolion ledled y rhanbarth yn paratoi eu harddangosfeydd ac rwy’n gofyn iddynt wneud hynny’n ddiogel, trwy beidio â gorlwytho socedi a defnyddio ceblau diogelwch pwrpasol gyda’r ffiws cywir.

“Bydd nifer ohonoch wedi gofyn am bob math o ddyfeisiadau trydanol y Dolig hwn - ond  byddwch yn hynod wyliadwrus er mwyn atal tân a all ddinistrio’ch cartref chi a phopeth ynddo, neu’n waeth byth anafu neu ladd rhywun yr ydych chi’n ei garu.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gadw’n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân trwy ddilyn y deuddeg cyngor isod dros yr ŵyl:

 

  1.  Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau Nadolig yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch sy’n medru achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).
  2. Cadwch ganhwyllau’n ddigon pell oddi wrth eich coeden Nadolig, dodrefn a llenni. Peidiwch â’u gadael yn llosgi pan nad ydych yn yr ystafell.
  3. Gwnewch yn siŵr bod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros dros y Nadolig yn gwybod beth i’w wneud os oes argyfwng. Lluniwch gynllun dianc a’i ymarfer.
  4. Gall addurniadau losgi’n hawdd. Peidiwch â’u hongian ar oleuadau nac wrth wresogyddion.
  5. Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, oni bai eu bod yn bethau sydd i fod i gael eu gadael ymlaen.
  6. Cymerwch bwyll arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch nhw a thynnu’r plwg cyn i chi fynd i’r gwely. Mae’r Nadolig yn adeg pan fyddwn yn defnyddio mwy o eitemau trydanol - peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau, defnyddiwch geblau estyn aml blwg gyda’r ffiws cywir. Edrychwch ar y gyfrifiannell ampau yn www.gwastan-gogcymru.org.uk /eich cadw chi’n ddiogel/ gofalu am offer trydanol neu dilynwch y ddolen hon /looking-after-the-electrics.aspx?lang=en
  1. Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch â gadael bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae’r risg o ddamwain, yn enwedig yn y gegin, yn uwch ar ôl yfed alcohol.
  2. Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch nhw mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt ar ôl eu tanio a chadwch fwced o ddŵr gerllaw.
  3. Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi eu diffodd yn llwyr.
  4. Gwiriwch y batri yn eich larwm mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig i’ch atgoffa i’w lanhau a chael gwared â llwch.
  5. Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant.
  6. Cymerwch yr amser i wneud yn siŵr bod perthnasau a chymdogion yn iawn y Nadolig hwn - sicrhewch eu bod yn ddiogel rhag tân yn ogystal â gofalu am eu lles.

Ychwanegodd Kevin: “Mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros yr ŵyl, ond gofynnwn iddynt gadw diogelwch tân mewn cof wrth ddathlu. Hoffwn hefyd atgoffa trigolion ynglŷn â pheryglon coginio ar ôl yfed alcohol - ‘dyw coginio ac yfed ddim yn gyfuniad doeth. Bydd y Nadolig hwn yn wahanol gan y bydd partis Dolig a nosweithiau allan wedi eu canslo  felly cymrwch bwyll wrth yfed a choginio yn y cartref.

"Mae’n rhaid i bob un ohonom ystyried y canlyniadau posibl a chadw diogelwch mewn cof i gadw’n ddiogel.

“Hoffwn hefyd ofyn i bawb ystyried teulu neu gymdogion a all fod yn agored i niwed, a sicrhau bod eu cartrefi hwythau’n ddiogel hefyd. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn  helpu pobl i ddianc yn ddianaf mewn da bryd.”

Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch 12 Diwrnod y Nadolig am gyfle i ennill hamper siocled. www.facebook.com/northwalesfire

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen