Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am ddiogelwch gyda chanhwyllau yn dilyn tân ym Mrymbo

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn apelio ar drigolion i gymryd gofal gyda chanhwyllau a fflamau agored yn dilyn tân ym Mrymbo yn ystod y penwythnos.

Galwyd diffoddwyr tân o Wrecsam i’r digwyddiad ym Mrymbo am 8.40pm dydd Gwener yr 22ain o Hydref.

Credir fod y tân wedi ei achosi gan gannwyll fechan a adawyd yn cynnau mewn ystafell wely wag.

Meddai Jami Jennings, Pennaeth Hyfforddi a Datblygu: “Mae’r digwyddiad hwn yn pwysleisio’r perygl o adael canhwyllau’n cynnau heb neb yn yr ystafell a’r modd y gall tannau ddigwydd mor hawdd.

“Gall fflam cannwyll gyffwrdd eitemau eraill mor hawdd gan ddatblygu i fod yn dân, a bob blwyddyn, gwelwn gymaint o ddigwyddiadau lle mae fflam agored wedi cael ei gadael gan arwain at ddifrod.

“Rydyn ni’n cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau bach batri sy’n rhad i’w prynu ac sydd lawer mwy diogel na’r rhai sydd â fflam agored.

Cynghorir trigolion sy’n defnyddio canhwyllau i ddilyn y cyngor diogelwch canlynol:

  • Gwnewch yn siŵr fod canhwyllau mewn dalwyr priodol, ar arwynebau cadarn, ac yn ddigon pell o ddefnyddiau allai fynd ar dân – megis llenni
  • Ni ddylid gadael plant ac anifeiliaid anwes eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu goleuo
  • Peidiwch byth â gadael ystafell lle mae cannwyll wedi ei goleuo. Diffoddwch y gannwyll os ydych yn gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu diffodd yn gyfan gwbl gyda’r nos
  • Cadwch y pwll gwêr yn glir o ddarnau o babwyr, matsis a gweddillion eraill bob amser
  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafelloedd sydd wedi eu hawyru’n dda, ond heb ddrafftiau, tyllau aer na llif o aer – bydd hyn yn helpu i rwystro llosgi cyflym neu anwastad a gorlifiad o’r gwêr
  • Torrwch y pabwyr fel ei fod yn ¼ modfedd o hyd, bob tro cyn ei losgi. Gall pabwyr hir neu gam arwain at losgi anwastad, diferu neu fflachio
  • Peidiwch â symud cannwyll wedi i chi ei goleuo
  • Dilynwch awgrymiadau’r gwneuthurwr am amser llosgi a’r defnydd priodol
  • Rhowch ganhwyllau persawrus mewn daliwr gwrthiannol i wres, gan fod y canhwyllau hyn wedi cael eu cynllunio i droi’n hylif wrth eu cynhesu, i gael cymaint o bersawr ag sy’n bosib
  • Llosgwch ganhwyllau ar fat gwrthiannol i wres bob amser
  • Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau’n agos at ei gilydd gan y gall hyn wneud i’r fflam fflachio
  • Defnyddiwch declyn pwrpasol neu lwy i ddiffodd cannwyll. Mae hyn yn fwy diogel na chwythu ar y fflam i’w diffodd ac fe allai greu gwreichion.

Ychwanegodd Jami: “Hyd yn oed gyda’r camau diogelwch yma, mae’n hanfodol eich bod yn barod rhag ofn i’r peth gwaethaf ddigwydd. Gall larwm fwg sy’n gweithio roi’r amser hanfodol y byddech ei angen i fynd allan, i aros allan a ffonio 999. Cadwch eich hunain a’r rhai a garwch yn ddiogel drwy brofi eich larymau’n rheolaidd a chynllunio ac ymarfer ffordd o ddianc o’r adeilad.”

Os hoffech gael gwiriad diogel ac iach rhad ac am ddim a larymau mwg os oes angen, yna ffoniwch ein rhif rhadffôn 0800 169 1234 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu ewch i www.northwalesfire.gov.wales

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen