Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Arhoswch yn ddiogel dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Postiwyd

Anogir trigolion Gogledd Cymru i fod yn ofalus dros yr Ŵyl er mwyn cadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel.

Gyda'r ansicrwydd yn parhau ynglŷn ag effaith yr amrywiolyn Omicron, mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn monitro'r sefyllfa yn agos. 

Mae Grŵp Cydlynu Strategol Gogledd Cymru (SCG) yn dod â'r gwasanaethau brys a’r gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill at ei gilydd.

Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Nigel Harrison sy'n cadeirio'r grŵp, a dywedodd:  “Wrth i ni ddysgu mwy am yr amrywiolyn COVID newydd, rydym yn gofyn i bawb gymryd gofal ychwanegol. Rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan drwy gadw ein gilydd yn ddiogel." 

“Rydym yn annog pawb yng Ngogledd Cymru i ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Os weithiwn ni gyda’n gilydd gallwn atal y lledu a helpu diogelu gwasanaethau hanfodol.”

Gwnewch y prawf llif unffordd cyn mynd allan - boed i barti Nadolig, i siopa, i weld ffrindiau neu deulu; neu wrth fynd i unrhyw le yn llawn pobl neu cyn teithio.

Os ydych yn profi'n bositif neu os oes gennych symptomau Covid-19 ni ddylech fynd allan a dylech drefnu gwneud prawf PCR a hunan-ynysu.

Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth i atal COVID rhag lledu, mae hyn yn golygu golchi dwylo, cadw pellter, gwisgo mwgwd, a chadw ffenestri ar agor os ydych yn cwrdd â phobl y tu mewn.

Y ffordd orau o gadw'n ddiogel yn erbyn COVID-19 yw cael eich brechu. Rydym am i oedolion sy'n gymwys i archebu brechiad hybu cyn gynted â phosib i ddiogelu pawb rhag i achosion Omicron ledu ar draws Gogledd Cymru yn yr wythnosau nesaf.

Gall pobl archebu ar-lein neu fynd i glinigau galw i mewn ac rydym yn annog pawb i wneud hyn cyn gynted ag y gallent a pheidio â gadael pethau tan y Flwyddyn Newydd.  Os ydych eisoes wedi archebu apwyntiad ym mis Rhagfyr cadwch ato.

Gellir cael gafael ar y Gwasanaeth Archebu Lle ar: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/trefnu-apwyntiad-ar-lein-pigiad-covid-19/

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen