Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhoi peiriant tân yn rhodd i Wcráin

Postiwyd

Mae peiriant tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi mynd i gyfeiriad dwyrain Ewrop yn oriau mân y bore heddiw (dydd Mawrth 3ydd Mai) i gefnogi diffoddwyr tân sy’n gweithio ar y rheng flaen yn Wcráin.

Mae’r peiriant tân yn cael ei roi i ddiffoddwyr tân yn Wcráin ar ôl i alwad ddod gan y Swyddfa Gartref a’r NFCC (Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân) i gefnogi ymdrech y rhyfel. Mae tîm o dri o ddiffoddwyr tân o’r Gwasanaeth wedi dechrau o’r Rhyl heddiw ar y chwe diwrnod o daith, a byddant yn cyrraedd pen y daith yng Ngwlad Pwyl ddydd Llun nesaf.

Mae’r peiriant tân hefyd yn cludo offer a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi diffoddwyr tân, gwasanaethau brys a gwirfoddolwyr sy’n brwydro gyda’i gilydd ar y rheng flaen.

Dywedodd Stuart Millington, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: “Rydym yn falch o fod yn gallu cynnig y peiriant tân yma i gefnogi diffoddwyr tân yn Wcráin. Mae llawer o orsafoedd tân a pheiriannau tân wedi cael eu dinistrio yn y rhyfel. Roeddem ar fin cael cerbyd newydd yn lle hwn yng Ngogledd Cymru, ac rydym yn falch o fod yn gallu cefnogi fel hyn a rhoi peiriant tân cwbl weithredol i ddiffoddwyr tân yn Wcráin.”

“Bydd ein staff yn ymuno â chonfoi o gerbydau o wasanaethau tân ac achub eraill o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i gefnogi’r ymdrech werth chweil yma sy’n cael ei chydlynu gan yr elusen Fire Aid a’r NFCC. Nid oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio’n weithredol mwyach ac roeddem yn falch ein bod yn gallu ei ddarparu i ddiffoddwyr tân Wcráin.”

“Rwy’n hynod falch o’n staff a hoffwn ddiolch iddynt am weithio’n galed y tu ôl i’r llenni i baratoi’r cerbyd a’r offer ar gyfer y daith, ond rwy’n falch hefyd o’r criw a fydd yn gyrru drwy Ewrop i Wlad Pwyl i gyflwyno’r cerbyd. Rwy’n edrych ymlaen at gael gwybodaeth reolaidd am eu taith.”

Bydd hanes y daith yn ymddangos ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen