
Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad?
Rydym yn chwilio am bobl gyffredin yn union fel chi i helpu i ddiogelu eich cymuned leol.
Cael gwybod mwy
Ydych chi wedi profi'ch larwm mwg?
Cael gwybod mwyYdych chi wedi profi'ch larwm mwg?
Coelcerthi yn yr Ardd
Cael gwybod mwyCoelcerthi yn yr ArddCyngor ar losgi dan realaeth
Helo – Paul Kay ydw i, Rheolwr Diogelwch Tân.
Mae'r tymor llosgi wedi ailddechrau ers y 1af o Hydref – gall ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin yn ystod y cyfnod hwn hyd at 15 Mawrth (hyd at 31ain o Fawrth mewn ardaloedd Ucheldir).
Mae rheolau cyfreithiol llym ar gyfer llosgi – ac mae’n rhaid bod gennych gynllun llosgi yn ei le i sicrhau eich bod yn llosgi’n ddiogel.
Rydym wedi gweld sut mae tanau gwyllt yn peryglu bywydau – bywydau ein cymunedau yn ogystal â bywydau ein diffoddwyr tân. Mae'r tanau hyn yn clymu ein hadnoddau pan allai fod eu hangen arnom mewn argyfwng arall. Ym mis Mawrth 2022 bu cynnydd sylweddol yn nifer y tanau gwyllt a fynychwyd gennym yng Ngogledd Cymru – aethon nhw i fyny 264%.
Mae'r cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn effeithio ar dyfiant llystyfiant ac o ganlyniad, gall y cyfnod llosgi dan reolaeth gyd-fynd ag amodau sychach nag arfer ar y tir, mwy o lystyfiant a gweithgaredd bywyd gwyllt.
Felly fy apêl yw hyn – os ydych yn llosgi, cymerwch ofal arbennig, dilynwch eich cynllun llosgi a ffoniwch ni ar 01931 522006 i roi gwybod i ni am amser a lleoliad y llosgi.
Gyda'n gilydd gallwn helpu i atal tanau gwyllt a diogelu ein cefn gwlad.
Darllenwch mwy yma.
Newyddion diweddaraf
Cael gwybod mwy Cael gwybod mwy
Postiwyd
Edrych ar ôl ein gilydd y Nadolig hwn - Lansiad ymgyrch dydd sadwrn nesa yn gêm RGC
Cael gwybod mwyEdrych ar ôl ein gilydd y Nadolig hwn - Lansiad ymgyrch dydd sadwrn nesa yn gêm RGC
Postiwyd
Gwasanaethau brys i gynnal gwasanaeth carolau Nadolig blynyddol
Cael gwybod mwyGwasanaethau brys i gynnal gwasanaeth carolau Nadolig blynyddol