Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd o risg uwch o danau glaswellt yn ystod tywydd poeth a sych

Postiwyd

Yn sgil cyhoeddi Rhybudd Ambr Gwres Eithafol gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhannau o Gymru a’r diffyg cyfnodau o law diweddar, mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru ac asianteithiau partneriaeth yn gofyn i bobl fod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt a thanau eraill yn ystod y cyfnod hwn o dywydd sych a phoeth.

Gwasanawth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Peter Greenslade, Cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw  “Rydym ar hyn o bryd yn profi tywydd poeth a sych ac mae’r rhagolygon ar gyfer y penwythnos nesaf a’r wythnos nesaf yn rhagweld y bydd yn mynd yn boethach fyth. Rwy, felly, yn annog pobl i fod yn hynod ofalus a bod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt.

Os ydych chi'n cynllunio barbeciw, rhaid i chi sicrhau bod y barbeciw yn cael ei osod ar arwyneb gwastad, fydd ddim yn mynd ar dân ei hun, ac ymhell i ffwrdd o sied, coed neu lwyni.

Os ydych yn bwriadu llosgi sbwriel, ailystyriwch hyn. Meddyliwch, a allwch chi fynd ag ef i safle gwaredu gwastraff yr awdurdod lleol yn lle hynny?

Mae’n anghyfreithlon llosgi glaswellt yr adeg hon o’r flwyddyn ac os byddwch yn dod ar draws rhywun yn llosgi glaswelltir gallwch roi gwybod amdanynt, yn ddienw, i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555111, neu fynd i crimestoppers-uk.org.

Os yw'n argyfwng, rhaid i chi bob amser ffonio 999.

Gadewch i ni i gyd fwynhau'r tywydd godidog hwn yn gyfrifol ac yn ddiogel. Trwy ddilyn y cyngor uchod, byddwch yn lleihau’r risg o dân ac yn lleihau’r effaith ar ein criwiau tân, ein cymunedau a’r amgylchedd.”

Dywedodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:
“Bydd llawer ohonom yn meddwl am ymweld â chefn gwlad yn ystod tywydd poeth y penwythnos hwn. Mae'n bwysig iawn cofio, fodd bynnag, mewn amodau sych a phoeth fel hyn y gall hyd yn oed sigarét neu botel wydr sy'n cael ei thaflu i ffwrdd gynnau tân mawr a dinistriol. Byddwn yn annog pobl i wrando ar gyngor ein gwasanaethau brys, i wneud yr hyn a allant i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, ac i gadw cefn gwlad Cymru yn brydferth.”

Am fwy o wybodaeth am sut i fwynhau'r awyr agored yn ddiogel ewch i: Eich Cadw Chi'n Ddiogel - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (gov.wales)

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru am fesurau i leihau effaith y tymheredd uchel

Cyngor Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer diogelwch yn yr haf

Byddwch yn ofalus wrth y dŵr

Mwy o wybodaeth am ddiogelwch dŵr.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen