Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofnodion 13/01/20

Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar
13 Ionawr 2020 ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Llanelwy

YN BRESENNOL

Cynrychiolwyr y Cyflogwyr:
Y Cyng. Bryan Apsley (Cadeirydd)
Gareth Owens, Dirprwy Glerc

Cynrychiolwyr y Gweithwyr:
Richard Fairhead, Cymdeithas yr Arweinwyr Tân - Prospect, yn cynrychioli’r gweithwyr
Duncan Stewart-Ball, Undeb yr FBU
Jane Honey, Cymdeithas y Swyddogion Tân
Blythe Roberts, Undeb yr FBU

Yn cynghori
Helen MacArthur, Prif Swyddog Cynorthwyol
Julie Brown, Rheolwr Pensiynau

Yn cofnodi
Alwen Davies, Swyddog Cyswllt Aeldoau

YMDDIHEURIADAU
Ken Finch, Trysorydd; Bob Mason, Cymdeithas y Swyddogion Tân

1 DATGAN BUDDIANNAU

1.1 Dim.

2 COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

2.1 Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2019 eu cymeradwyo’n gofnod cywir.

3 CYNLLUNIAU PENSIWN Y DIFFODDWYR TÂN – ADRODDIAD I ROI’R WYBODAETH DDIWEDDARAF

3.1 Fe wnaeth y Rheolwr Pensiynau gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r aelodau am aelodaeth o’r cynllun, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

• Grŵp Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru gyfan a Grŵp Swyddogion Pensiwn Tân Rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr
• y diweddaraf am y seminar treth
• seiber-ddiogelwch
• datganiad blynyddol ac arolwg blynyddol y Rheoleiddiwr Pensiynau
• clinig pensiynau
• golwg gyffredinol ar fwletinau a chylchlythyrau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân.

3.2 O ran seiber-ddiogelwch, nodwyd bod modd diffinio seiber-risg yn fras fel y risg o golli, tarfu neu ddifrod i gynllun neu i’w aelodau o ganlyniad i fethiant ei systemau neu ei brosesau technoleg gwybodaeth. Mae’n cynnwys risigau i wybodaeth (diogelu data) a risgiau mewnol (e.e. oddi wrth staff) a risgiau allanol (e.e. hacwyr). Mae’r Awdurdod wedi cymryd camau i ddatblygu seiber-gadernid ac mae wedi gweithio gyda’r holl bartïon perthnasol i ddiffinio ein ffordd o reoli’r risg hwn. Mae rheolaethau digonol yn bodoli i leihau’r risg o ddigwyddiad seiber, o ran systemau, prosesau a phobl. Nodwyd hefyd fod cynllunio parhad busnes yn digwydd er mwyn galluogi’r cynllun i fynd ati’n gyflym a diogel i ailafael mewn gweithrediadau os bydd digwyddiad.

3.3 Fy Mhensiwn Ar-lein – nodwyd bod nifer yr aelodau sydd wedi cofrestru ar y system yn dal yn isel er bod sawl ymgyrch gyhoeddusrwydd wedi cael eu cynnal i annog aelodau i edrych ar eu pensiwn ar-lein. Cadarnhaodd Blythe Roberts a Duncan Stewart-Ball y byddant yn parhau i atgoffa’r aelodau ei bod yn bwysig cofrestru ar y system.

3.4 PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

4 Y DIWEDDARAF AM GYNLLUN PENSIWN DYFED (GWEINYDDWR Y CYNLLUN)

4.1 Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ynglŷn â gweinyddu Cronfa Bensiwn Dyfed.

4.2 Roedd yr adroddiad yn rhoi sicrwydd fod y cynllun yn cael ei weinyddu’n iawn, ac roedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

• y diweddaraf am faterion rheoleiddio
• seiber-ddiogelwch
• e-gyfathrebu
• ailgysoni Isafswm Pensiwn Gwarantedig
• adroddiadau ansawdd data
• apeliadau
• achosion o dorri’r rheolau
• fy mhensiwn ar-lein
• llif gwaith.

4.3 Cafodd yr Aelodau wybod am y datblygiadau diweddaraf yn dilyn dyfarniad y Llys Apêl yn achosion McCloud a Sergeant o ran yr amddiffyniadau trosiannol yng nghynllun 2015 a oedd yn camwahaniaethu’n angyfreithlon ar sail oedran. Nodwyd bod disgwyl cynnal ymgynghoriad yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ar y penderfyniad arfaethedig.

4.4 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

5 SESIWN HYFFORDDIANT AR SEIBER-DDIOGELWCH

5.1 I ymateb i gais gan aelodau mewn cyfarfod blaenorol, rhoddodd Gareth Crute o’r adran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu gyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei wneud i geisio diogelu’r sefydliad rhag seiber-droseddau.

5.2 Mae’r adran TGCh yn defnyddio amrywiaeth o arferion i ddiogelu’r sefydliad. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio’r Datrysiad Gwrth-feirws diweddaraf (McAfee); annog cyfrineiriau cryf; sicrhau bod pob meddalwedd yn cael ei ddiweddaru, a monitro a hidlo pob neges e-bost sy’n cyrraedd.

5.3 Cafodd yr aelodau wybod am y cynllun Cyber Essentials, sef cynllun sy’n cael cefnogaeth y Llywodraeth a’r diwydiant i helpu sefydliadau i’w diogelu eu hunain rhag bygythiadau cyffredin ar-lein. Er mwyn cael ei ardystio, mae GTAGC wedi cyflwyno atebion i gwestiynau sy’n seiliedig ar ddiogelwch sefydliadau, polisïau a gweithdrefnau. Yn dilyn canlyniad yr holiadur, bydd GTAGC yn canolbwyntio ar feysydd allweddol.

5.4 Diolchodd y Cadeirydd i Gareth Crute am y cyflwyniad a oedd yn llawn gwybodaeth, yna PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

6 DADANSODDI ANGHENION HYFFORDDI A GWYBODAETH

6.1 Fe wnaeth y Rheolwr Pensiynau gyflwyno’r adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r aelodau am y ffurflen dadansoddi anghenion hyfforddiant a gwybodaeth y mae’n rhaid ei llenwi a’i dychwelyd ati hi erbyn 1 Mawrth bob blwyddyn.

6.2 Nodwyd bod dyletswydd statudol ar y Rheoleiddiwr Pensiynau i gadw golwg rheoleidddiol dan Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ac mae’n monitro chwe phroses allweddol fel rhan o’i arolwg blynyddol o lywodraethu a gweinyddu. Defnyddir y prosesau allweddol hyn i ddangos perfformiad cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

6.3 Un o’r prosesau allweddol yw gallu asesu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i redeg y Cynllun Pensiwn Lleol yn iawn. Rhaid i’r Bwrdd Pensiwn Lleol gael cynllun cadarn i sicrhau bod gwaith gwerthuso rheolaidd yn digwydd ar y sgiliau sydd eu hangen i redeg y cynllun yn effeithlon. Felly, gofynnwyd i’r Aelodau lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd at y Rheolwr Pensiyau erbyn 1 Mawrth 2020 er mwyn bodloni’r gofyniad dan Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

6.4 PENDERFYNWYD nodi cynnwys y ffuflen dadansoddi anghenion hyfforddi a gwybodaeth.

7 SESIWN HYFFORDDI AR BENSIYNAU O DDWY FFYNHONNELL

7.1 Rhoddodd y Rheolwr Pensiynau sesiwn hyfforddi ar bensiynau o ddwy ffynhonnell.

7.2 Cafodd yr Aelodau wybod y gallai pensiwn o ddwy ffynhonnell, a elwir hefyd yn rheol dau bensiwn, fod yn berthnasol os yw aelod o’r cynllun pensiwn wedi cael gostyngiad yn ei gyflog pensiynadwy. Mae’r rheol yn berthnasol i aelodau o gynlluniau 1992 a 2007. Mae rheoliadau’n diogelu aelodau sydd wedi cael gostyngiad yn eu cyflog, naill ai oherwydd newid swydd neu oherwydd gostyngiad mewn elfen o gyflog pensiynadwy yn gynharach yn eu gyrfa. Mae’r cyfrifiad yn cael ei weithio allan ar adeg ymddeol.

7.3 Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Pensiynau am y cyflwyniad, yna PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.

8 HER GYFREITHIOL I AMDDIFFYNIAD TROSIANNOL

8.1 Cafodd yr Aelodau wybodaeth am y sefyllfa bresennol o ran yr her gyfreithiol i’r amddiffyniad trosiannol i aelodau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 ar ôl i Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 2015 gael ei gyflwyno.

8.2 Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa fod y Llys Apêl, yn Rhagfyr 2018, wedi canfod bod yr amddiffyniadau trosiannol i aelodau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 wedi camwahaniaethu’n anghyfreithlon ar sail oedran a chafodd yr achos ei ddychwelyd i’r Tribiwnlys Cyflogaeth er mwyn i hwnnw bennu’r cywiriad. Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd gorchymyn interim ei sefydlu i glymu’r partïon tan fis Gorffennaf 2020 oherwydd dyna pryd mae’r Gorchymyn yn rhagweld y dylid datrys y cywiriad terfynol. Ond dylid nodi y gallai fod cryn amser cyn rhoi’r cywiriad ar waith hyd oed ar ôl cael penderfyniad terfynol.

8.3 Yn dilyn yr achos, pan fo cais yn dod i law am ymddeoliad ar sail afiechyd, mae angen i’r ymgeisydd gael ei asesu nawr o dan reolau 1992 a rheolau 2015. Nid yw adolygiad cychwynnol o’r ymddeoliadau ar sail afiechyd ers cyflwyno cynllun 2015 wedi canfod unrhyw ymddeoliadau sy’n gofyn am ymchwiliad pellach.

8.4 PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

9 BWRDD CYNGHORI’R CYNLLUN – Y DIWEDDARAF AR LAFAR

9.1 Aeth y Cyng. Apsley, PSTC Fairhead a PSC MacArthur i’r cyfarfod diwethaf o Fwrdd Cynghori’r Cynllun ar 31 Hydref. Ymysg y materion a drafodwyd roedd dyfarniad cyfreithiol yr Uche Lys, y diweddaraf gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol a’r rhesymau pam mae pobl yn dewis optio allan o ymuno â’r cynllun pensiwn. Bu’r Bwrdd yn edrych ar gylchoedd gorchwyl y tri ATA, a da oedd nodi bod fersiwn ATA Gogledd Cymru yn gynhwysfawr ac nad oedd angen ei ddiwygio.

10 COFRESTR RISGIAU – MAES RISG 2 ARIANNOL

10.1 Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod y Rheoleiddiwr Pensiynau yn argymell bod aelodau’r Bwrdd Pensiwn Lleol yn ystyried ac yn adolygu eu Cofrestr Risgiau yn ystod pob cyfarfod o’r Bwrdd. Cytunwyd yn flaenorol i gynnal adolygiad treiglol o feysydd risg penodol, felly cafodd y maes risg ariannol ei gyflwyno yn y cyfarfod er mwyn ei ystyried.

10.2 Ychwanegwyd un risg at y gofrestr risgiau ariannol yn ddiweddar, sef penderfyniad y llys apêl yn achos McCloud a Sargeant ar fater camwahaniaethu ar sail oedran. Caiff hyn ei fonitro, a rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod nesaf.

10.3 PENDERFYNWYD nodi’r Maes Risg Ariannol ar y Gofrestr ar gyfer 2019-20, ac y bydd unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau yn cael eu hymgorffori yn y gofrestr ac y bydd y ddogfen diwygiedig yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr Awdurdod.

11 POLISI GWRTHDARO RHWNG BUDDIANNAU

11.1 Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r polisi diwygiedig ar wrthdaro rhwng buddiannau, er mwyn cael cymeradwyaeth yr aelodau.

11.2 Roedd yr Aelodau’n ymwybodol fod rhaid i bob awdurdod gweinyddu gael proses sy’n galluogi aelodau’r Bwrdd Pensiwn Lleol i ganfod, monitro a rheoli unrhyw achosion o wrthdaro rhwng buddiannau, gan gynnwys gwrthdrawiadau posibl. Mae rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau yn allweddol er mwyn llywodraethu cynllun yn dda.

11.3 Nodwyd y dylai’r broses gynnwys y rheolaethau canlynol:
• cytuno ar bolisi gwrthdrawiadau sy’n nodi’r dull a ddilynir gan y Bwrdd Pensiwn Lleol i ddelio â gwrthdrawiadau – dylai hyn ymdrin â’r broses o ganfod a monitro gwrthdrawiadau ac amlinellu dewisiadau ar gyfer rheoli’r rhain
• cofrestr buddiannau ar gyfer cofnodi pob gwrthdrawiad gwirioneddol neu bosibl
• datgeliadau pryd mae aelodau’r Bwrdd Pensiwn Lleol yn cael eu penodi a datgeliadau sy’n mynd ymlaen cyn gynted ag y maent yn codi, a datgeliadau ar ddechrau cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn Lleol
• rhag-gynllunio i ganfod gwrthdrawiadau a allai ddigwydd yn y dyfodol a dewisiadau sydd ar gael i reoli’r rhain.

11.4 PENDERFYNWYD mabwysiadu’n ffurfiol y polisi diwygiedig ar wrthdaro rhwng buddiannau, a’i gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod.

12 CYFEIRIO MATERION I’R ATA LLAWN

12.1 Cytunwyd i gyfeirio’r polisi gwrthdaro rhwng buddiannau i’r ATA llawn, a hefyd ddiweddariad ar her gyfreithiol McCloud a Sargeant.

13 UNRHYW FATER ARALL

13.1 Dim.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen