Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Cynllun Rheoli Risg Cymunedol?

O dan Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Llywodraeth Cymru 2016, un o'r prif amcanion ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yw mynd ati’n barhaus ac mewn modd cynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.

Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol yw nodi risgiau sy'n wynebu'r gymuned ac mae'n disgrifio sut y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.

Pa gyfnod mae'r Cynllun Rheoli Risg Cymunedol yn ei gwmpasu?

Bydd ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol yn cwmpasu'r cyfnod o bum mlynedd o 2024 i 2029, ac yn disodli ein Cynllun Corfforaethol blaenorol a oedd yn cwmpasu'r cyfnod 2021 i 2024. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn erbyn blwyddyn olaf y Cynllun hwnnw yn ein Hasesiad Perfformiad Blynyddol yn Hydref 2024.

Pam mae Cynllun Gweithredu ar gyfer 2024/25 hefyd?

Mae Cynllun Gweithredu 2024/25 yn manylu ar ein hamcanion adrannol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ac maent yn cyd-fynd â'r risgiau a'r amcanion hirdymor a nodwyd yn y Cynllun Rheoli Risg Cymunedol. Bob blwyddyn byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu a fydd yn ein cynorthwyo i gyflawni cynnydd yn erbyn Cynllun Rheoli Risg Cymunedol pum mlynedd 2024/29.

Pam ydych chi'n ymgynghori ar y Cynllun Rheoli Risg Cymunedol a'r Cynllun Gweithredu?

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gosod dyletswydd statudol ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i osod amcanion gwella iddo'i hun ym mhob blwyddyn ariannol ac ymgynghori â thrigolion, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid ar amcanion gwella arfaethedig.

 

Hefyd, mae'n ofyniad statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i Gyrff Cyhoeddus gyhoeddi amcanion llesiant blynyddol. Er nad oes gofyniad i ymgynghori ar yr amcanion llesiant arfaethedig, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn am adborth gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac yn croesawu adborth gan bawb y mae’n ymgynghori â nhw mewn perthynas â’r amcanion.

 

Beth mae'r ymgynghoriad yn ei olygu?

Bydd yr ymgynghoriad yn casglu adborth gan bobl sy'n byw, gweithio a theithio yn y rhanbarth ynghylch sut rydym yn darparu ein gwasanaethau atal, amddiffyn ac ymateb yng Ngogledd Cymru.

Mae'r broses ymgynghori yn annog pobl, gan gynnwys ein staff, i roi gwybod i ni beth yw eu barn.

Datblygwyd strategaeth gyfathrebu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang a sicrhau’r ymgysylltiad gorau.

Byddwn yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o grwpiau bregus a rhai heb gynrychiolaeth ddigonol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli cyfathrebu er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol a sicrhau ymgysylltiad cynhwysol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan:

Cwblhewch yr arolwg ymgynghori yma.

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd

Ffoniwch neu anfonwch neges destun atom ar 07787 578386;  neu 

E-bostiwch ni ar EinPumEgwyddor@tangogleddcymru.llyw.cymru - gallwn anfon copi papur o'r holiadur atoch, a gallwch ei ddychwelyd atom yn rhad ac am ddim.  

Mae fformat hawdd ei ddarllen ar gael ar ein gwefan - sydd hefyd yn cynnig gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg ac yn darparu bar offer cynorthwyol hawdd ei ddefnyddio, gan gynnwys swyddogaeth darllen yn uchel, testun mwy a'r gallu i weld yr wybodaeth mewn nifer o ieithoedd ychwanegol.

Pa mor hir fydd yr ymgynghoriad yn para?

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd rhwng Dydd Gwener 25 Mawrth a hanner nos ar Ddydd Sul 16 Mehefin 2024. Bydd hyn yn cael ei gyfleu'n eang yn fewnol i’r staff ac yn allanol i'r cyhoedd a'n rhanddeiliaid.

Sut fydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio?

Bydd yr holl adborth a dderbynnir gan y cyhoedd, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei fonitro a'i ddadansoddi'n rheolaidd i nodi unrhyw themâu cyffredin sy’n codi ac i sicrhau nad ydym wedi anwybyddu unrhyw risgiau neu fesurau lliniaru realistig.

Bydd yr adborth yn cael ei grynhoi a'i gyflwyno i Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub i'w ystyried, cyn iddynt gymeradwyo cyhoeddi fersiwn derfynol o'r Cynllun Rheoli Risg Cymunedol ar ein gwefan www.tangogleddcymru.llyw.cymru yng nghanol mis Gorffennaf.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen