Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth yw heriau’r gwahanol ddigwyddiadau rydyn ni’n mynd atynt?

 

Y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn i helpu i atal neu ymateb i danau mewn tai

Tanau damweiniol mewn cartrefi a fynychwyd 01/04/2017 - 31/03/2022

Yn rhy aml o lawer rydyn ni’n gweld effeithiau trychinebus tanau damweiniol yn y cartref.

Mae atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf yn allweddol i gadw pobl yn ddiogel a dyna pam rydyn ni wedi gweithio’n galed i leihau nifer y tanau ynghyd â’r marwolaethau a’r anafiadau o ganlyniad i hynny – ac mae cynnal archwiliadau diogel ac iach i ddarparu cyngor diogelwch tân yn y cartref a gosod larymau mwg yn rhan annatod o’r gwaith hwn.

Mae’r rhan fwyaf o danau’n cychwyn yn ddamweiniol – a gall yr effeithiau fod yn ddinistriol. Mae dros 40% o’r holl danau yn y cartref yn cychwyn yn y gegin. Rhywbeth yn tynnu sylw yw’r ffactor dynol mwyaf sy’n gyfrifol am hynny – gan arwain at gegin llawn mwg, offer wedi’u difrodi neu yn yr achosion gwaethaf, anafiadau neu niwed difrifol.

Rydyn ni’n ymgyrchu drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo ffyrdd y gallwch aros yn ddiogel – gallwch ddilyn ein hawgrymiadau ar goginio’n ddiogel, diogelwch e-sigaréts, diogelwch trydanol, diogelwch ysmygu a llawer mwy ar ein gwefan.

Ers 2013, mae system chwistrellu tân wedi’i gosod ym mhob cartref newydd a chartref wedi’i drawsnewid yng Nghymru. Mae hyn fel cael diffoddwr tân yn eich cartref a phrofwyd bod hyn yn achub bywydau ac yn atal anafiadau.

Mae systemau larwm wedi’u monitro’n cynnig system gymorth werthfawr i breswylwyr oedrannus neu agored i niwed - ac i bob un ohonom, gall larymau
mwg sy’n gweithio rhoi rhybudd cynnar a all ddarparu amser gwerthfawr i fynd allan, aros allan a deialu 999.

Yn 2022/23, am y tro cyntaf ers i’n cofnodion ddechrau, ni fu unrhyw farwolaethau oherwydd tanau damweiniol mewn anheddau yng Ngogledd Cymru. 

Fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon a gwyddom fod angen i ni weithio’n galetach byth i gynnal y lefel hon o ddiogelwch

 

Y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn i helpu i atal neu ymateb i wrthdrawiadau traffig ffyrdd

Lleoliadau gwrthdrawiadau traffig ffyrdd 01/04/2017 - 31/03/2022

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys gwasanaethau tân ac achub eraill yng Nghymru i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a chodi ymwybyddiaeth o brif achosion gwrthdrawiadau traffig ffyrdd angheuol.

Mae neges y ‘Pump Angheuol’ yn canolbwyntio ar ‘Peidiwch ag yfed a gyrru, Gyrrwch Gan Bwyll, Peidiwch â bod yn ddiofal, Gwisgwch wregys, a Diffoddwch eich ffôn symudol’.

Nid delio â thanau mewn tai yn unig yw ein gwaith fel gwasanaeth tân ac achub – rydyn ni’n mynd at nifer uchel o wrthdrawiadau traffig ffyrdd ac yn gweithio’n ddiflino gydag asiantaethau partner i helpu i addysgu gyrwyr am ganlyniadau angheuol posib goryrru neu beidio â thalu sylw wrth yrru.

Mae hyn yn arbennig o bwysig i yrwyr iau – mae llawer o dystiolaeth bod gyrwyr 16-24 oed yn anghymesur o debygol o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Yng Nghymru, mae’r grŵp oedran hwn yn cyfrif am 11 y cant o’r boblogaeth ond 22 y cant o’r holl bobl a gafodd eu hanafu.

Mae cydweithio i helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd yn rhan o’n hymrwymiad i leihau digwyddiadau traffig ar y ffordd a all
ddigwydd unrhyw le ar draws ein rhanbarth.

 

Y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn i helpu i daclo tanau yn yr awyr agored

Lleoliadau tanau yn yr awyr agored 01/04/2017 - 31/03/2022

Mae newid yn yr hinsawdd wedi gweld cynnydd yn y galw i ymateb i danau yn yr awyr agored yn ein rhanbarth.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tân yn gyfrifol am ddifrodi miloedd o hectarau o dir cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae tanau yn yr awyr agored yn cymryd adnoddau y gall fod eu hangen mewn argyfwng arall – ac oherwydd eu bod yn tueddu i ddigwydd mewn amgylcheddau gwledig a gwledig-trefol, rydyn ni wedi gweld sut mae tanau yn yr awyr agored yn rhoi bywydau mewn perygl – bywydau ein cymunedau yn ogystal â’n diffoddwyr tân.

Yn 2022, gwelsom gynnydd dramatig yn nifer a difrifoldeb y tanau yn yr awyr agored yr aethpwyd atynt yng Ngogledd Cymru, gan godi o 4 ym mis Mawrth ac Ebrill 2021 i 20 ym mis Mawrth ac Ebrill 2022. Mae’r darlun hwn yn debyg ar draws Cymru gyfan.

Dyna pam mae cydweithio i atal y tanau hyn yn bwysicach nag erioed – ac rydyn ni’n gweithio gydag ystod o sefydliadau, ynghyd â gwasanaethau tân ac achub eraill ledled Cymru, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y difrod y mae tanau yn yr awyr agored yn gallu ei achosi i rai o’n tirweddau ucheldirol mwyaf eiconig.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr lleol – roedd llawer o’r tanau yn yr awyr agored ucheldirol ym mis Mawrth 2022 wedi digwydd o ganlyniad i dechnegau rheoli tir fel gwaith llosgi gweunydd rhagnodedig yn mynd allan o reolaeth. 

Yn ystod haf 2022, cofnodwyd y tymereddau uchaf erioed, ac mae tanau yn yr awyr agored bellach yn cael eu hadnabod yn swyddogol fel perygl mawr ar y Gofrestr Risg Genedlaethol o Argyfyngau Sifil, ac yn adroddiad Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd ar Iechyd 2023 y DU.

Gall effaith tanau yn yr awyr agored fod yn ddinistriol – maen nhw’n difrodi tir ac eiddo, yn niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd, yn rhyddhau carbon deuocsid a llygryddion i’r atmosffer a chyrsiau dŵr, gan effeithio ar gymunedau a busnesau
lleol.

Mae diffodd tanau yn yr awyr agored yn waith anodd a chostus iawn, ac mae’n gofyn am offer arbenigol gan fod ein diffoddwyr tân yn aml yn wynebu gweithio dan amodau peryglus ac anodd.

Mae’r costau yn sgil tanau yn yr awyr agored yn enfawr, gan gynnwys y gwaith adfer, ffermwyr a busnesau’n colli tir a’r effaith negyddol ar gymunedau.
Trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth, rydyn ni’n canolbwyntio ar leihau nifer y tanau glaswellt a’r effaith y mae’r rhain yn ei gael ar ein cymunedau, ein tirwedd a’n bywyd gwyllt.

 

Y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn i ymateb i lifogydd

Ymateb i ddigwyddiadau llifogydd 01/04/2017 - 31/03/2022

Mae newid hinsawdd hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw i ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yng Ngogledd Cymru.

Mae stormydd sylweddol yn digwydd yn amlach ar draws y DU, sy’n gofyn am ymateb brys aml-asiantaeth.

Ym mis Ionawr 2021, daeth Storm Cristoph ag un o’r tridiau gwlypaf a gofnodwyd erioed ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Aeth criwiau tân Gogledd Cymru at ddigwyddiadau llifogydd ar draws y rhanbarth wrth i Storm Cristoph daro’r DU, gan ddod â glaw sylweddol a nifer o rybuddion llifogydd difrifol.

Roedd ein hystafell reoli yn brysur gyda dros 200 o alwadau wedi eu derbyn ar anterth y storm, gyda chriwiau neu swyddogion yn mynd allan at 56 o alwadau. Cynorthwyodd staff gweithredol mewn 48 eiddo ac achubwyd 28 o anafusion dros ddau ddiwrnod o dywydd garw.

Gweithiodd swyddogion yn agos gyda phartneriaid o wasanaethau brys eraill ac awdurdodau lleol wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer y llifogydd eang hyn.

Yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf oedd Rhuthun a Bangor-is-y-coed lle cafodd trigolion o’r gymuned leol eu symud o’u cartrefi, ac agorwyd
canolfannau gorffwys tra bod rhybuddion llifogydd a rhybuddion llifogydd mewn grym ar draws Gogledd Cymru.

Rydyn ni eisiau parhau i helpu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu i fod yn ddiogel beth bynnag fo’r tywydd – ac mae effeithiau newid hinsawdd
yn golygu bod angen i ni allu addasu i ymateb i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau

 

Y lle iawn, yr amser iawn, y sgiliau iawn i helpu i gryfhau trefniadau atal ac amddiffyn

 

Nifer o danau cynradd fesul Awdurdodau Tan ac Achub yng Nghymru

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar atal fel conglfaen y gwaith o amddiffyn ein cymunedau. 

Mae atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf yn well i bawb ac rydyn ni’n gweithio’n galed i atal tanau a digwyddiadau eraill. 

Mae nifer y prif danau – y rhai a allai fod yn danau mwy difrifol sy’n niweidio pobl neu’n achosi difrod i eiddo – wedi gostwng yn sylweddol ar draws Cymru gyfan dros y deng mlynedd diwethaf diolch i’n ffocws ar atal, ac wedi aros yr un fath dros y pum mlynedd diwethaf.

 

 

Nifer y digwyddiadau dyddiol ar gyfartaledd 01/04/2017 - 31/03/2022

 

Yn 2022/23, cwblhaodd ein staff diogelwch cymunedol 18,052 o archwiliadau diogel ac iach i helpu i atal tanau yn y cartref, trwy annog perchnogaeth larymau mwg i roi rhybudd cynnar pe bai tân a thrwy roi cyngor diogelwch tân hanfodol i
breswylwyr.

Gallwch gofrestru i gael archwiliad diogel ac iach am ddim trwy anfon neges destun gyda’ch manylion i 07507303678, llenwi’r ffurflen ymholiadau ar-lein yma neu drwy ffonio 0800 169 1234 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ein rôl fel rheolydd diogelwch tân yw gweithio gyda phobl a busnesau i helpu i sicrhau eu bod yn gwneud popeth i gynnal diogelwch y cyhoedd yn yr eiddo y maent yn gyfrifol amdano o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Lle mae bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd mewn eiddo, gallwn ddefnyddio ein pwerau gorfodi i leihau risg a dod â gwelliannau a thrwy wneud hynny byddwn yn gweithredu’n gymesur.

Mae ein staff diogelwch tân busnes yn gweithio ar draws Gogledd Cymru gyda phobl a busnesau i ddarparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i’w helpu i reoli’r risgiau tân yn eu heiddo.

 

Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen