Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ardal y Canol (Conwy a Sir Ddinbych)

Ardal y Canol (Conwy a Sir Ddinbych)

Cyflwyniad gan Reolwr Partneriaethau a Chymunedau, Kevin Jones.

Mae Sir Conwy yn cynnwys ardal o 1,130 Km sgwâr.

Mae'n ardal o harddwch naturiol eithriadol, gyda thirweddau'n amrywio o draethau tywodlyd, pentiroedd creigiog a chymoedd diarffordd, i rostiroedd agored a mynyddoedd garw. Mae Sir Ddinbych yn cwmpasu ardal sy'n rhedeg o gyrchfannau arfordirol y Rhyl a Phrestatyn yng Ngogledd Cymru, i lawr drwy Ddyffryn Clwyd, i'r de cyn belled â Chorwen a thref dwristiaeth boblogaidd Llangollen.

Mae Afon Conwy yn llifo o uwchben Betws-y-coed i dref hanesyddol Conwy, gyda'i Chastell enwog a'i waliau caerog, ac mae’n diffinio canol y Sir. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod ei fanciau gorllewinol a'r banciau dwyreiniol, ac yn ymestyn ar draws ardal wledig y sir i gwrdd ag eangderau cyfagos rhostiroedd Dinbych.

Yng Nghonwy, mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth o dros 110,000 yn byw ar hyd llain arfordirol gul, ac mae trefi glan môr Llandudno a Bae Colwyn yn denu degau o filoedd o dwristiaid i'r Sir bob blwyddyn. Rydym yn ganolfan fasnachol, gynadledda a busnes hefyd, sy'n dod yn fwy a mwy pwysig. Mae swyddfeydd newydd Llywodraeth Cymru yn ardal Cyffordd Llandudno, ger y cysylltiadau priffyrdd a rheilffyrdd pwysig ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Yn Sir Ddinbych, amaethyddiaeth a thwristiaeth yw'r prif ddiwydiannau. Mae 15% o'r holl lety i dwristiaid yng Nghymru wedi'i leoli yn y Sir, ac mae twristiaid yn treulio tua 12 miliwn o ddiwrnodau yn y Sir, ac yn cynhyrchu tua £375 miliwn bob blwyddyn i'r economi.

Mae trefi hanesyddol Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun, pob un â'u castell eu hunain, a dinas gadeiriol fechan Llanelwy, wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych hefyd.

Sir wledig yw Sir Ddinbych i raddau health, gyda phoblogaeth o 93,065.  Mae 18% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, yn bennaf yn ardal yr ucheldir ac yn Nyffryn Clwyd.

Mae bryniau Clwyd wedi eu lleoli i'r dwyrain, Rhostiroedd Hiraethog i'r gorllewin, ac mae bryniau'r Berwyn ar bwys ffin ddeheuol y sir. Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw'r prif ddiwydiannau.

Mae Parc Busnes Llanelwy, sy’n ehangu, ar gyrion yr A55, yn gartref i nifer o gwmnïau a sefydliadau, ac mae gwibffordd yr A55 yn rhedeg drwy'r sir, ac yn cysylltu â llwybrau fferi Iwerddon yng Nghaergybi, meysydd awyr ym Manceinion a Lerpwl, a gyda phrif rwydweithiau'r DU.



Adnoddau

Mae gan Gonwy a Sir Ddinbych gyfanswm o 15 gorsaf dân - mae un, yn Rhyl, yn cael ei chriwio 24 awr, ac mae gorsafoedd yn Llandudno a Bae Colwyn yn cael eu criwio yn ystod y dydd.

Cafodd yr orsaf dân yn y Rhyl ei hailfodelu'n helaeth yn ddiweddar, ac mae hi bellach yn Orsaf Dân Gymunedol, y cyntaf o'i math yng Nghymru. Mae'r orsaf yn gartref i ddau gyfarpar tân, Platfform Ysgolion Awyr ac Uned Reoli Digwyddiadau'r Gwasanaeth.

Mae Gorsaf Dân Llandudno yn gartref i ddau gyfarpar tân ac asedau Cydnerthedd Cenedlaethol ar ffurf Pwmp Swmp Uchel a chynhwysydd pibell ddŵr.

Mae Bae Colwyn yn gartref i ddau gyfarpar tân a phod yr Adnodd Achub Dŵr.

Mae gorsafoedd wrth gefn yng Nghonwy, Abergele, Llanfairfechan, Llanrwst, Betws-y-coed, Cerrigydrudion, Prestatyn, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen, sy’n defnyddio diffoddwyr tân Ar-Alwad (RDS) sy'n gwasanaethu eu cymunedau.

Mae cerbydau tanau gwyllt yn Abergele a Chorwen hefyd.


Diogelwch Tân


Mae'r tîm diogelwch tân deddfwriaethol wedi'i leoli yng Ngorsaf Dân Bae Colwyn, ac mae'n darparu gwasanaeth i bob ardal drwy gydol Sir Ddinbych a Chonwy.



Diogelwch Tân Cymunedol

Mae diogelwch cymunedol yn rôl allweddol o fewn ein cynllun gweithredu, ac mae'r holl staff yn gweithio gyda thrigolion lleol i hyrwyddo diogelwch tân cymunedol. Mae gan orsafoedd criw dydd a gorsafoedd tân amser cyflawn swyddogaeth diogelwch tân cymunedol hanfodol yn ychwanegol at y swyddogaeth weithredol.

 

Partneriaethau

Ein nod yw parhau i ffurfio partneriaethau newydd a gwella ein partneriaethau sydd eisoes wedi'u sefydlu gyda'n holl grwpiau targed yn yr ardal, i ddarparu sylfaen dda i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru barhau i wasanaethu cymunedau Conwy a Sir Ddinbych, a chyrraedd ein grwpiau targed/mewn perygl. Mae ein staff yn gweithio’n rhagweithiol ochr yn ochr ag asiantaethau partner, ac yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd mewn gwahanol fforymau. Bydd hyn yn help mawr i'r sir a'r sefydliad gyflawni ein targedau.

Maen nhw’n gweithio’n rhagweithiol ochr yn ochr ag asiantaethau partner, lle bynnag y bo modd, i gyflawni ein nod cyffredinol o achub bywydau ac atal tân ac anafiadau rhag tân.

 



 

Archwiliadau diogelwch tân yn y cartref

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim ffoniwch rhadffôn ar 0800 169 1234 neu ffoniwch y Swyddog Diogelwch Tân ar 01745 325777.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen