Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Cefnogol

Gwasanaethau Cefnogol

Gweithio gyda'n Gilydd

Atal, Amddiffyn, Ymateb

Pan fydd pobl yn meddwl am y Gwasanaeth Tân ac Achub, maent yn tueddu i feddwl am Ddiffoddwyr Tân yn ymateb i alwadau argyfwng, ac er bod hyn yn wir, mae rolau a chyfrifoldebau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn mynd llawer pellach na'r delweddau traddodiadol hyn. 

Yn ychwanegol at Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser a Rhan Amser, mae'r Gwasanaeth yn cyflogi pobl mewn rolau ategol amrywiol a heriol, ac mae'r gwaith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yr un mor bwysig o ran gwneud Gogledd Cymru yn lle diogelach i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag o.

Mae ein llwyddiant yn deillio o ymroddiad, proffesiynoldeb ac ymrwymiad ein staff ar draws y Gwasanaeth. Boed yn gwneud yn siwr bod ein staff yn cael eu talu ar amser, sicrhau bod cyflenwadau ac offer digonol ar gael i'r staff, meithrin cysylltiadau gyda chymunedau lleol a rhoi cyngor ac arweiniad ar amrywiol faterion, neu ateb a delio â galwadau argyfwng yn ein canolfan reoli, rydym yn cynnig amrediad o gyfleoedd gyrfa rhagorol a budd-daliadau, gan gynnwys:

Strwythur cyflog sefydlog cystadleuol

  • Cynllun pensiwn cyfrannol
  • Cynllun gwaith hyblyg
  • Talebau gofal plant i staff cymwys
  • Medru defnyddio cyfleusterau campfa'r Gwasanaeth a'r rhaglen llesiant
  • Gwasanaeth iechyd galwedigaethol
  • Rhaglen cymorth cydweithwyr
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa parhaus
  • Gwisg i'r holl aelodau staff

Isod mae rhestr o'r cyfleoedd gyrfa llai amlwg yn y Gwasanaeth: 

  • Cynghorydd Adnoddau Dynol
  • Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
  • Rheoli Diffoddwyr Tân
  • Dadansoddwr System TG
  • Swyddog Cyllid
  • Cynghorydd Cydraddoldeb
  • Swyddog Cydymffurfio
  • Rheolwr Partneriaeth
  • Derbynnydd
  • Technegydd Cerbydau
  • Gyrwyr Pwrpas Cyffredinol
  • Rheoli Fflyd
  • Swyddog Atal Tanau Bwriadol
  • Cogydd
  • Cynghorwyr Ffitrwydd Corfforol
  • Addysgwyr
  • Cynorthwyydd Cynnal a Chadw

Darllenwch ymlaen am drosolwg byr o'r amrywiol adrannau o fewn y Gwasanaeth.

Rheoli

Mae galwadau 999/112 i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael eu rhoi trwodd i staff rheoli yn y Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd ar Barc Busnes Llanelwy. Mae'r Ganolfan hon yn gyfleustra gydweithredol y mae GTAGC a Heddlu Gogledd Cymru yn ei rhannu.

Mae staff Rheoli GTAGC yn delio ag oddeutu 108,000 y flwyddyn, gyda rhyw 17,000 yn alwadau argfwng lle byddai angen anfon criwiau, peiriannau tân ac offer arbenigol ar unwaith. Mae gweithredwyr hefyd wedi eu hyfforddi i roddi cymorth ar oroesi tân os bydd rhywun yn galw sydd wedi cael ei ddal mewn tân.

Gall galwadau argyfwng ddelio ag amrywiaeth o ddigwyddiadau megis tanau, gwrthdrawiadau traffig ffordd, digwyddiadau yn ymwneud â deunyddiau peryglus, llifogydd a llawer o bethau eraill. Mae gweithredwyr rheoli yn gweithio mewn timau ('gwylfeydd') ac yn defnyddio amrediad o dechnoleg gwybodaeth soffistigedig i'w cynorthwyo i ddelio â galwadau argyfwng ac anfon yr adnoddau cyflymaf a mwyaf priodol o unrhyw un o'r 44 gorsaf dân yng Ngogledd Cymru.

Adnoddau Dynol (AD) a Chydraddoldeb

Prif rôl yr adran yw rhoi cyngor, arweiniad a chymorth, yn fewnol ac yn allanol, mewn perthynas â materion cyflogaeth megis recriwtio a dethol, telerau ac amodau cyflogaeth, materion cydraddoldeb, rheoli presenoldeb, iechyd galwedigaethol, gwasanaethau cymorth, swydd-ddisgrifiadau, gwerthuso swyddi a llesiant staff yn gyffredinol. Mae'r adran yn hyrwyddo cydraddoldeb yn gadarnhaol ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o gyfle cyfartal a thegwch ac yn helpu hybu newid diwylliannol. Prif gyfrifoldeb arall yr adran AD yw sicrhau bod holl staff gweithredol yn cadw at ofynion ffitrwydd eu rôl. Mae hyn yn cynnwys tîm o Gynghorwyr Ffitrwydd sy'n ymgymryd ag asesiadau ffitrwydd rheolaidd a lle bo angen, yn darparu rhaglenni wedi eu teilwra a chyngor ar faeth. Mae gan staff cymorth fynediad hefyd at gyngor ac arweiniad gan y Tîm Cynghorwyr Ffitrwydd. Mae sicrhau bod yr holl staff yn glynu at Werthoedd Craidd y Gwasanaethau yn allweddol i'r adran hon.

Cyfathrebu Corfforaethol

Her allweddol y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol yw sicrhau bod negeseuon y Gwasanaeth yn cael eu gweld, eu clywed a'u deall. Mae Cyfathrebu Corfforaethol yn cynnwys y swyddogaethau craidd canlynol:

  • Cyfathrebu allanol - rheoli gwefan y Gwasanaeth, cysylltiadau â'r cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol, materion cyhoeddus, ymgyrchoedd strategol, cysylltiadau cyhoeddus ac ymgynghori, rheoli argyfwng a chyfryngau electronig eraill gan gynnwys blogio, e-hysbysebu, apiau symudol ac arolygon arlein
  • Cyfathrebu mewnol - ymgysylltu ac ymgynghori â staff, cyfathrebu â staff trwy'r Brîff Wythnosol a chylchlythyr chwarterol Y Fflam, grwpiau ffocws staff a seminarau
  • Hunaniaeth gorfforaethol ac enw da - brandio, dylunio, cyhoeddiadau, digwyddiadau a hysbysebu digwyddiadau

Mae'r adran hon hefyd yn sicrhau ein bod fel Gwasanaeth yn cyflawni ein dyletswydd i drin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal fel y diffinnir gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg.

Cynllunio Corfforaethol

Yr adran hon sy'n bennaf gyfrifol am sicrhau: cydymffurfio gyda deddfwriaeth, hyrwyddo gwelliannau parhaus, cynhyrchu cynlluniau gwella strategol, cynlluniau gwasanaeth ac adrannol, a chynhyrchu adroddiadau asesu perfformiad a monitro. Mae hefyd yn ymgymryd â chasglu data ar ddigwyddiadau a dadansoddi, ac yn rhoi gwybodaeth i reolwyr er mwyn iddynt gymryd penderfyniadau ar strategaethau gwasanaeth gyda'r holl wybodaeth sydd ar gael.

Cyllid, Pensiynau a Chyflogres

Mae'r adran hon yn sicrhau bod cronfeydd yr Awdurdod yn cael eu rheoli yn ôl y gyfraith ac yn gywir. Mae'n gyfrifol am bennu'r gyllideb a'i monitro, prosesu anfonebau i'w talu, prosesu taflenni amser a hawliadau teithio, monitro cyfrifon imprest arian mân, paratoi a monitro cyllidebau cyfalaf, rhoi cyngor ar bensiynau a phrosesu anfonebau dyledwyr.

Mae gan y Gwasanaeth Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu Gwasanaethau  Ariannol. Mae'r Cytundeb hwn yn cynnwys paratoi adroddiadau cyllideb a chyfrifon, talu anfonebau (BACS a sieciau), cyfrifo cyflog a thaliadau, darparu gwasanaethau bancio a buddsoddi, trefnu cyllid cyfalaf, rhoi cyngor technegol ar faterion cyfrifo a rheoli incwm. 

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Rôl yr adran hon yw darparu a chynnal darpariaeth TGCh effeithiol a modern o fewn y Gwasanaeth i gefnogi ei weithrediad effeithiol a chyflenwi gwasanaethau. Mae'r adran TGCh hefyd yn darparu diogelwch ac amddiffyniad technegol i systemau, data a gwybodaeth y Gwasanaeth. 

Rheoli Cyfleusterau

Darperir y swyddogaeth hon trwy gontract cydweithredol â Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r prif gyfrifoldebau yn ymwneud â'r canlynol: y rhaglen gyfalaf sy'n cynnwys adeiladau newydd, ail-fodelu adeiladau presennol, ailwampio a gwella; sicrhau trwsio a chynnal a chadw adeiladau a safleoedd presennol; rheoli defnydd ynni a phrifion mewn adeiladau, monitro lefelau defnydd ynni a dwr a hyrwyddo effeithiolrwydd ynni, a phrynu a gwaredu tir ac adeiladau.

Rheoli'r Fflyd

Mae'r adran Fflyd a Pheirianneg wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno. Prif gyfrifoldebau'r adran yw dylunio, prynu a chynnal fflyd cerbydau a pheiriannau'r Gwasanaeth.

Storfeydd

Lleolir yr adran Storfeydd yng Nghyffordd Llandudno. Mae'n gyfrifol am ddarparu a chyflenwi holl ddillad, offer ac ati.

Gweithrediadau

Mae'r adran weithrediadau yn cefnogi cyfrifoldebau technegol gweithredol y Gwasanaeth, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau gweithredol, rheoli perfformiad  a chynllunio ar gyfer argyfwng.

Mae'r adran hefyd yn goruchwylio darpariaeth:

  • peiriannau tân - cyfrannu at ddatblygu, comisiynu a dilysu peiriannau newydd (cerbydau) i ddiwallu anghenion presennol y Gwasanaeth ac i'r dyfodol
  • lifrai - sicrhau bod staff gweithredol yn cael safon uchel o gysur a diogelwch
  • offer - gwerthuso, caffael a dilysu amrediad o offer i'w ddefnyddio ar beiriannau tân ac mewn gorsafoedd tân, a sicrhau bod offer yn cael ei wasanaethu a'i gynnal i safon uchel o barodrwydd gweithredol

Diogelwch Tân

Amcan yr adran Diogelwch Tân yw amddiffyn Gogledd Cymru trwy leihau achosion ac effeithiau tân. Mae'r adran yn cynnwys dwy agwedd benodol:

Diogelwch Busnes (DB)

Mae pobl sy'n meddu ar neu'n rhedeg safle an-nomestig yn gyfrifol dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 am ddiogelwch tân ar y safleoedd hynny.  Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gorfodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol hynny. Mae'r adran DB yn ymgymryd ag archwiliadau o safleoedd perthnasol, ac yn cynghori cyflogwyr ar Ddiogelwch Tân ac asesu risg safleoedd.

Diogelwch Cymunedol (DC)

Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd dan y Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i roi gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth i rwystro tanau a marwolaeth ac anafiadau cysylltiedig.

Mae DC yn cynnwys Archwiliadau Diogelwch Cartref, sgyrsisu mewn ysgolion, ymgyrchoedd a mentrau arbennig (e.e. atal tanau bwriadol, cyrsiau Ffenics) a chanllawiau. 

Mae'r adran hon hefyd yn rhoi arweiniad anstatudol ar agweddau eraill diogelwch cymunedol megis ar y ffyrdd a ger dwr.

Iechyd a Diogelwch

Prif rôl y swyddogaeth Iechyd a Diogelwch yw cydymffurfio â dyletswyddau statudol a lleihau damweiniau ac anafiadau yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod polisi Iechyd a Diogelwch y Gwasanaeth yn cael ei ddatblygu, ei fonitro, ei arolygu a'i ddefnyddio, a bod diwylliant addysg diogelwch yn cael ei hystyried a'i hyrwyddo trwy'r amser ar draws y Gwasanaeth. Mae tueddiadau mewn damweiniau a digwyddiadau diogelwch eraill yn cael eu hadnabod a chymerir camau i'w trin.

Gwasanaeth Cymorth

Mae'r Cyd-gysylltydd Gwasanaethau Cymorth yn sicrhau bod yr adran hon yn rhoi cymorth gweinyddol beunyddiol i Bencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy'n cynnwys rheoli'r prif switsfwrdd ffôn a'r dderbynfa. Mae'r adran hon hefyd yn delio ag ymholiadau ac yn delio gyda phob cais dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a'r Ddeddf Diogelu Data. Mae Gwasanaethau Cymorth eraill yn cynnwys rheoli Cogyddion a Glanhawyr a Chyflenwadau Swyddfa.

Hyfforddiant a Datblygu

Lleolir yr adran Hyfforddiant a Datblygu yn y Rhyl ond mae canolfan hyfforddi yn Nolgellau hefyd; mae'r adran yn cynnig amrediad llawn o gyrsiau i staff gweithredol ac anweithredol. Mae hyn yn cynnwys ysgol yrru a chyfleoedd i ddatblygu'r iaith Gymraeg.

Lawrlwytho gwybodaeth am Gyfweliadau Nodweddion a Phriodoleddau Personol (PQA)

Darllenwch fwy

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen