Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau Glaswellt ac Eithin

Tanau Glaswellt ac Eithin

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i chwarae rôl allweddol i leihau nifer y tanau glaswellt a rhostir bwriadol.

Mae tanau bwriadol yng Nghymru yn achosi difrod i nifer sylweddol o gynefinoedd, ardaloedd cadwraeth, gwarchodaeth, safleoedd gwarchodedig a rhywogaethau, rhai na fydd fyth yn cael eu hadfer. Mae Cymru’n gartref i nifer o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac mae rhai yn tyfu ac yn byw mewn ardaloedd lle mae tanau glaswellt, mynydd a fforest yn broblem. Mae hefyd risg i fywyd ac eiddo, pob blwyddyn mae teuluoedd yn gorfod gadael eu cartrefi oherwydd bod rhywun wedi rhoi llystyfiant ar dan gerllaw.

Mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn targedu mannau dwys ac yn ceisio rhoi pob math o weithgareddau ar waith gan ddibynnu ar y problemau sydd yn bodoli mewn ardaloedd penodol.

Mae tanau bwriadol yn tanseilio hyder cymdeithasol ac economaidd, effeithio ar dwristiaeth, swyddi lleol ac yn draul ar ein hadnoddau, y gellid eu defnyddio’n effeithiol yn rhywle arall.

Nod y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ydi -

Lleihau tanau bwriadol yng nghefn gwlad.

Newid agwedd y gymuned tuag at gynnau tanau bwriadol yng nghefn gwlad.

Meithrin partneriaethau aml-asiantaeth trwy gydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau lleol i enwi dim ond ychydig i fynd i’r afael â’r broblem.

Sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu rhannu gyda chymunedau ynghylch cynnau tanau yng nghefn gwlad.

Cefnogi grwpiau ieuenctid i ddarparu gweithgareddau dargyfeiriol i bobl ifanc.

Mae ein dulliau aml-asiantaeth yn cynnwys cynnal patrolau gwelededd uchel a phroffil uchel, mynd i ysgolion, darparu gweithgareddau i bobl ifanc, a chwrdd gyda ffermwyr a pherchnogion tir i drafod llosgi dan reolaeth.

Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, sy'n ymrwymedig i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Darllenwch fwy am Ymgyrch Dawns Glaw

Llyfrgell Adnoddau Ymgyrch Dawns Glaw - gyda mynediad i adnoddau cyfryngol wedi'u datblygu i gefnogi'r ymgyrch hon.

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen