Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau simnai

Tanau simnai

Dyma rai cynghorion i gael simneiau mwy diogel:

  • Cadwch y simneiau a’r ffliwiau yn lân ac mewn cyflwr da
  • Gwnewch yn siŵr fod y marwor wedi diffodd yn llwyr cyn i chi fynd i’r gwely
  • Defnyddiwch giard tân bob amser, i amddiffyn rhag gwreichion sy’n dod o farwor poeth

I’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel rhag tân, dylech chi gofio trefnu i lanhau eich simnai yn rheolaidd - mae’n dibynnu pa danwydd sydd gennych - cyn i fisoedd oer y gaeaf gyrraedd ac i chithau ddechrau defnyddio eich tân a’ch simnai eto.

Petai’r gwaethaf yn digwydd, gall larwm mwg roi amser ychwanegol i chi allu dianc os bydd tân yn y tŷ – cofiwch drefnu i brofi eich larymau’n rheolaidd.

Pa mor aml mae angen glanhau eich simnai?

  • Olew - Unwaith y flwyddyn
  • Nwy - Unwaith y flwyddyn
  • Glo bitwmen - Ddwywaith y flwyddyn
  • Coed - Hyd at bedair gwaith y flwyddyn
  • Glo di-fwg - O leiaf unwaith y flwyddyn

Dyma’r pethau mwyaf cyffredin sy’n achosi tanau simnai:

  • Maint anghywir i’r cyfarpar
  • Llosgi coed gwlyb heb gael eu sychu
  • Ysgubo a glanhau’n anaml
  • Llosgi dros nos neu fudlosgi coed am gyfnodau hir mewn stof llosgi coed

 

Cynghorion ar gyfer lleihau’r risg o dân simnai

Dylai simneiau gael eu hysgubo’n rheolaidd. Gallai hynny olygu gymaint â thair gwaith yn y tymor llosgi (y gaeaf) ond o leiaf unwaith y tymor beth bynnag fo’r tanwydd.

Rhaid i bob coed sy’n cael eu llosgi beidio â bod â mwy nag 17 y cant o leithder.

Mae’n bwysig prynu’r cyfarpar sydd â’r maint cywir ar gyfer eich ystafell. Ni fydd cyfarpar sy’n rhy fawr fyth yn ddigon poeth i ‘folateiddio’ yr holl danwydd yn y coed, a bydd tanwydd sydd heb losgi yn mynd i fyny’r simnai fel mwg ac yn cyddwyso yn y ffliw fel creosot eithriadol o fflamadwy.

Gellir cymryd y camau canlynol i leihau faint o greosot sy’n cael ei gynhyrchu mewn stof llosgi coed:

Unwaith y bydd y tanwydd wedi cael ei gynnau, a’r ffliw wedi cael ei chynhesu i’r tymheredd gweithredu, dylid addasu’r cyflenwad aer i’r stof er mwyn cyfyngu ar faint o aer sydd ynddi fel nad yw’n gorboethi ac fel nad oes gormod o wres yn cael ei golli i fyny’r simnai. Fodd bynnag, dylai fod yn ddigon agored i gynnal hylosgiad â fflamau cymhedrol yn y blwch tân. (Dylai’r fflamau lenwi’r holl ffenestr neu flwch tân heb gael eu sugno i fyny’r simnai).

Er mwyn gweld a yw hyn yn cael ei gynnal, dylid gwirio cyflwr y tân drwy unrhyw baneli gwydr a hefyd dylid gwirio dwysedd y mwg wrth iddo adael y ffliw ar y top.

Yn y ffliw, gellir defnyddio thermomedr o’r math sydd fel profiedydd mewnol, i weld a yw tymheredd y ffliw yn ddigonol neu os yw’n ormodol, gellir defnyddio thermomedrau ffliw magnetig ar gyfer hyn hefyd.

Wrth ddefnyddio stof aml-danwydd, mae’n bwysig eich bod yn rheoli’r llosgi yn y cyfarpar drwy’r tyllau aer pwrpasol, heb ddefnyddio unrhyw gaead a allai rwystro mwg rhag gallu gadael y cyfarpar yn ddiogel.

Cofiwch fod ffliw wedi blocio yn gallu lladd, a bod cau aer allan yn diffodd tân.

Dylai pob simnai a llwybrau simnai gael eu glanhau a’u gwirio yn ystod misoedd yr haf er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn rhydd o weddillion a’u bod mewn cyflwr da cyn dechrau’r tymor gwresogi. Mae simnai sydd wedi blocio neu sy’n ddiffygol yn gallu achosi tanau simnai a gwenwyn carbon monocsid, felly mae’n bwysig iawn cyflogi rhywun cymwys proffesiynol i Lanhau Simnai, megis rhai sydd wedi’u hardystio gan NACS.

 

Cliciwch yma i weld ein fideo ar sut i atal tanau simnai. 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen