Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

E-sigaréts

E-sigaréts

Mae sigaréts electronig, sydd hefyd yn cael eu galw'n e-sigaréts, yn troi hylif yn niwl erosol, sydd yn dynwared yr arfer o ysmygu tybaco.  

Mae gan e-sigaréts fatri i bweru'r anweddydd ac mae'n rhaid ailwefru'r batri yn rheolaidd.  Mae nifer o achosion wedi cael sylw yn genedlaethol wedi i'r batris hyn orboethi neu ffrwydro wrth gael eu gwefru.

Mae e-sigaréts yn cynnwys batris lithiwm ïon; a gwyddwn bod y batris hyn wedi achosi tanau yn y gorffennol oherwydd adwaith thermol a achosir drwy orboethi'r batri, difrod ffisegol neu nam yn y batri ynn ystod y broses gynhyrchu.

Cynghorir y cyhoedd i ddilyn cyfarwyddiadau a chyngor y gwneuthurwr bob amser wrth wefru batri eu e-sigarét.

Nid oes gan bob e-sigaréts blwg.  Maent yn cael eu gwefru drwy gysylltu'r batri i borth USB ac yna i liniadur; ac felly mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr mewn perthynas ag amseroedd gwefru.

Dylida'r addasyddion pwer sy'n cael eu defnyddio i wefru e-sigaréts gydymffurfio â Rheoliadau (Diogelwch) Offer Trydanol 1994 a Rheoliadau Cydweddoldeb Electromagnetig 2006. Fe ddylai'r marciau  canlynol fod arnynt:

  • Marc CE
  • Enw neu nod masnachu'r gwneuthurwr neu'r gwerthwr cyfrifol.
  • Adnabyddwr unigryw e.e. model, math, rhif batsh / cyfresol
  • Cyfradd foltedd, pwer/cerrynt ac amledd/.

Yn ddiweddar rydym wedi gweld cynnydd mewn e-sigaréts heb eu brandio; ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau.  Mae'r peryglon sydd ynghlwm a'r rhain yn cynnwys:

  • Gwifrau heb eu hadfer yn fecanyddol.
  • Dim cyfarwyddiadau.
  • Gwefrydd yn gorboethi.
  • Posibilrwydd o dân.
  • Plwg sydd ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
  • Sioc drydanol o ganlyniad i'r darnau eilaidd.

Fe'ch argymhellir i ddefnyddio'r gwefrydd a'r batri a  ddaeth gyda'r e-sigarét yn unig.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen