Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Byw mewn tŵr fflatiau

Byw mewn tŵr fflatiau

Os ydych chi’n byw mewn tŵr fflatiau dydych chi ddim o reidrwydd mewn mwy o berygl rhag tân, ond mae’n golygu bod yn rhaid i chi ystyried pa mor ddiogel ydych chi a’r effaith y gallai tân yn eich cartref ei gael ar breswylwyr eraill.

Mae’n bwysig, er mwyn eich diogelwch chi eich hun, eich bod yn deall beth y dylech chi ei wneud mewn achos o dân; os ydy’r tân yn eich fflat chi neu rywle arall yn yr adeilad. 

Diogelu’ch cartref

  • Mae larymau mwg gweithredol yn arbed bywydau; gosodwch larymau a phrofwch hwy’n rheolaidd
  • Cymrwch bwyll wrth goginio; dros y 3 blynedd diwethaf rydym wedi mynd at dros 1,000 o danau damweiniol yn ymwneud â chyfarpar coginio
  • Peidiwch â gorlwytho socedi; mae lidiau estyn neu addaswyr yn cyfyngu faint o ampau y gallant ddygymod â hwy er mwyn lleihau’r perygl o dân. Felly cofiwch, dim ond un plwg ymhob soced.
  • Cyfarpar; os nad ydych chi’n defnyddio’r cyfarpar tynnwch y plwg, cadwch gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da. Gwnewch yn siŵr bod marc diogelwch Prydeinig neu Ewropeaidd arnynt.
  • Archwiliwch geblau a gwifrau rhag ofn eu bod wedi treulio.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd sigaréts yn llwyr a’ch bod yn cael gwared arnynt yn ofalus
  • Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o gyrraedd plant

Byddwch barod

  • Cadwch allanfeydd yn glir, yn eich cartref ac mewn coridorau comunol
  • Cadwch agoriadau drysau a ffenestri mewn man cyfleus
  • Rhowch wybod am unrhyw ddifrod i ddrysau tân ac offer diffodd tân yn eich adeilad cyn gynted ag y bo modd
  • Dysgwch sut i ynysu’r cyflenwad nwy, trydan a dŵr yn eich fflat
  • Dewch i adnabod eich cymdogion. Ydyn nhw’n ifanc, yn hŷn neu’n fregus? Efallai y bydd angen help arnynt mewn argyfwng?
  • Dewch yn gyfarwydd â chynllun dianc yr adeilad. Os nad ydych yn gwybod, cysylltwch â pherchennog yr adeilad, y landlord neu’r warden.

Beth i’w wneud mewn achos o dân…

Yn eich fflat chi neu fflat eich cymydog:

  • Gadewch y fflat a chaewch y drws
  • Defnyddiwch y grisiau
  • Ffoniwch 999

Mewn man arall yn yr adeilad:

  • Caewch y ffenestri a’r drysau
  • Ffoniwch 999 - Peidiwch byth â rhagdybio bod rhywun wedi galw
  • Os ydych yn teimlo’ch bod mewn perygl, ewch allan o’r adeilad
  • Os oes gan eich adeilad bolisi "arhoswch", mae'r adeilad wedi'i ddylunio fel na fydd angen i chi adael eich fflat os na fydd angen i chi adael yr adeilad. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo dan fygythiad gan fwg neu dân, ewch allan ac aros allan
  • COFIWCH - PEIDIWCH ymladd tân eich hun

 

Am ragor o wybodaeth ar gadw’n ddiogel yn eich cartref ewch i  www.electricalsafetyfirst.org.uk  a www.registermyappliance.org.uk

Neu i adrodd am beryglon yn eich cartref neu adeilad cysylltwch â  ni yma

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen