Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau Tân Awtomatig

Larymau Tân Awtomatig

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyflwyno newidiadau i'r modd y mae'n ymateb i larymau tân awtomatig (LTAau).

Ar 1af Ebrill 2015, ni fyddwn yn anfon ymateb brys i LTAau oni bai ein bod wedi derbyn galwad 999 yn cadarnhau tân.  

Ym mis Rhagfyr 2014, fe bleidleisiodd aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru o blaid cyflwyno'r trefniadau hyn er mwyn osgoi toriadau i wasanaethau craidd.

Meddai Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Meirick Davies: "Yn ddiamheuol dyma gyfnod heriol iawn i wasanaethau cyhoeddus wrth i gyllidebau brinhau - ac mae'n bwysig bod y cyhoedd yn edrych ar y toriadau hyn gan yr Awdurdod Tân yng nghyd-destun yr heriau yr ydym ni'n eu hwynebu.

"Rydym yn wynebu diffyg yn y gyllideb o hyd at £3.3 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac fe allai hyn beryglu ein gwasanaethau tân ac achub craidd.

"Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, fe benderfynodd yr Awdurdod o blaid cynnal lefel y gwasanaeth presennol yn y gyllideb ar gyfer 2015-16, a hynny trwy gynyddu cyfraniadau'r cynghorau lleol a  thrwy newid  y modd yr ydym yn ymateb i LTAau fel rhan o strategaeth i osgoi lleihau gwasanaethau craidd.

Mae swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydlynu gyda phartneriaid i gyflwyno'r newidiadau hyn ym mis Ebrill ac i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd er mwyn lleihau dryswch a risg.

Meddai'r Prif Swyddog Tân Simon Smith: "Mae'r newid hwn yn adlewyrchu'r heriau yr ydym ni fel gwasanaeth cyhoeddus yn eu hwynebu wrth i ni geisio cyflwyno'r achos gorau posibl ar gyfer ein dyfodol ariannol.  Drwy newid y modd yr ydym yn ymateb i LTAau gallwn helpu i gynnal lefel y gwasanaeth presennol a chyflawni ein dyletswyddau i amddiffyn pobl y Gogledd, atal risgiau, ac ymateb yn ôl y galw i danau a gwrthdrawiadau ar y ffordd.

"Mewn sawl modd ni fydd y cyhoedd yn sylwi ar y newid - gan y byddwn yn parhau i ymateb i rai LTAau. Yr hyn a fydd yn newid yw mai dim ond ar ôl derbyn cadarnhad gwirioneddol o dân y byddwn yn ymateb, fel y gallwn arbed ein hadnoddau prin a sicrhau eu bod ar gael i argyfyngau gwirioneddol. "

"Ar ôl 1af Ebrill os ydych chi'n gyfrifol am ddiogelwch tân ar safle yng Ngogledd Cymru rydym yn eich cynghori i adolygu eich asesiad risgiau tân  i ystyried y newidiadau hyn, rhoi gwybod i staff a sicrhau bod pawb yn gwybod y dylent 999 ar unwaith ar ôl canfod tân."

"Ond wrth gwrs, atal sydd orau - ac rydym yn eich cynghori i wneud yn siwr eich bod yn cymryd pob gofal posib  i atal  tân rhag  cynnau yn y lle cyntaf, a'ch bod yn cynnal a chadw'ch larymau mwg yn unol â'r Safon Brydeinig addas."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd am atgoffa'r cyhoedd mai'r Person Cyfrifol fel y manylir yng Ngorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 sydd yn gyfrifol am sefydlu asesiadau risgiau tân addas a digonol sydd yn nodi'r mesurau y dylid eu cymryd unwaith os bydd systemau LTA yn seinio. Un mesur yw ymchwilio pam bod y system LTA wedi seinio a rhoi gwybod i'r gwasanaeth tân ac achub drwy alw 999 unwaith y mae tân wedi ei gadarnhau.

Bydd rhai eithriadau i'r trefniadau newydd yn ymwneud ag eiddo preswyl

Os ydych chi, y Person Cyfrifol, yn poeni y gall y trefniadau hyn beryglu bywydau ar eich safle e-bostiwch

I lawrlwytho taflen wybodaeth am y newidiadau cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth, yn cynnwys atebion i gwestiynau cyffredin, manylion ynglyn â Sut i Ymchwilio i Gam-rybuddion gan Larymau Tân Awtomatig, ac  Achosion a Ffyrdd o Atal Rhybuddion gan Systemau Larwm Tân Awtomatig cliciwch ar y doleni yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen