Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelu Tân Gwybodaeth am Berfformiad

Diogelu Tân Gwybodaeth am Berfformiad

Un o gonglfeini gwaith y Gwasanaeth Tân ac Achub yw'r maes Diogelwch Rhag Tân. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gefnogi cydymffurfiaeth gyda Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 fel bod adeiladau annomestig y mae pobl yn gweithio, ymweld â hwy a  mwynhau eu hamser hamdden ynddynt yn darparu cyfleusterau sydd yn sicrhau y gall pobl fynd allan o'r adeilad yn ddiogel mewn achos o dân.  Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys ymweliadau addysgol, cyfeirio at ganllawiau perthnasol a gwirio neu archwilio mesurau diogelwch tân.

Datganiad cenhadaeth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yw 'Gwneud Gogledd Cymru yn ardal fwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi'.  Rydym ni wedi ymrwymo i reoliadau gwell, doethach sydd yn hybu twf busnesau ac , os nad ydy'r busnesau hynny'n cydymffurfio, rydym yn cynnig cefnogaeth a chyfle i drafod y canllawiau, gofynion a'r penderfyniadau er mwyn eu galluogi i gydymffurfio  gyda Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.  Mae'r dull gweithredu hwn yn unol ag egwyddorion C od y Rheolyddion 2014

Mae oddeutu 28,000 eiddo annomestig yng Ngogledd Cymru ac mae ein gweithgareddau Diogelwch Tân i Fusnesau wedi eu hanelu at safleoedd sydd mewn mwy o berygl o achosi marwolaethau neu anafiadau o ganlyniad i dân yn ein barn ni.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi golwg gyffredinol ar gost ein gweithgareddau diogelu rhag tân ynghyd â chanlyniadau'r gwaith hwn. Mae'r Wybodaeth am Berfformiad wedi ei rannu'n chwe chategori hawdd i'w ddarllen. Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth  

 

 

 



Mae'r diffiniadau a'r dulliau cyfrifo sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen hon er gwybodaeth yn weddol gyson  gydag argymhellion Cylchlythyr Cymdeithas y Diffoddwyr Tân 2013-37 Canlyniadau ac effeithiau gweithgareddau diogelu rhag tân yn y gymuned  http://www.cfoa.org.uk/10041.

Cliciwch yma i weld y daflen wybodaeth

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen