Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hydrantau Tân / Cyflenwadau Dŵr ar gyfer Tanau

Hydrantau Tân / Cyflenwadau Dŵr ar gyfer Tanau

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ryw 17,500 o hydrantau tân wedi eu lleoli ledled Gogledd Cymru. Cyfrifoldeb y Gwasanaeth yw sicrhau bod yr hydrantau hyn yn gweithio ac ar gael i’w defnyddio os bydd tân.

Gosodir hydrantau tân mewn siambr danddaearol, ac maent wedi eu marcio uwchben y ddaear gyda physt/arwyddion melyn, yn nodi lleoliad a maint y bibel ddŵr. Mae caead y siambr wedi ei farcio gyda’r llythrennau F H.

Caead hydrant tân a phlât marcio hydrant

Gellir gweld y caeadau ar lwybrau troed, ar ymyl y ffordd neu yn y ffordd.

Gellir gweld platiau marcio wedi eu gosod ar bostyn neu wal.

 

Byddwch yn ofalus i beidio â pharcio eich cerbyd dros hydrant tân, oherwydd efallai bydd ei angen mewn argyfwng ar unrhyw adeg. Os bydd tân, mae’n hollbwysig bod diffoddwyr tân yn medru cael mynediad at gyflenwad dŵr yn gyflym. Gall rhwystro mynediad at hydrantau tân, yn enwedig parcio difeddwl, beryglu eich bywyd chi, eich teulu a’ch cymdogion. 

Mae person yn cyflawni trosedd os ydynt yn niweidio neu rwystro mynediad at hydrant tân ac felly gellid eu herlyn.

 

Gwybod y gyfraith

Mae’n anghyfreithlon defnyddio hydrant tân i gael dŵr i unrhyw bwrpas ac eithrio diffodd tân, oni cheir awdurdod gan berchennog hydrant neu awdurdod dŵr (megis Dŵr Cymru Welsh Water neu Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy). Os canfyddir bod dŵr wedi ei dynnu’n anghyfreithlon o hydrant tân, gellir erlyn y person hwnnw.

Adrodd am hydrantau dŵr diffygiol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl yn ein cymunedau i gysylltu â nhw mewn perthynas â phroblemau neu bryderon am gyflwr hydrant tân neu ymholiadau cyffredinol ynglŷn â hydrantau tân. Os ceir adroddiad bod hydrant tân wedi ei niweidio caiff ei archwilio a’i drwsio cyn gynted ag y bo modd.

Adleoli platiau marcio hydrant tân

Weithiau, bydd angen symud platiau marcio hydrant tân, er enghraifft pan fydd perchennog eiddo eisiau adleoli wal derfyn. Mae cyngor pellach ar gael gan Reolwr Dŵr GTAGC (gweler cyfeiriad ebost isod).
 

Os ydych eisiau gwybodaeth bellach am hydrantau tân, os byddwch angen adrodd am hydrant tân diffygiol/wedi ei niweidio neu adrodd am ddefnyddio hydrant tân yn anghyfreithlon, cysylltwch â Rheolwr Dŵr GTAGC Andrew McLaren ar ebost neu ffoniwch 01745 535 250.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen