Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Coelcerthi yn yr Ardd

Fe all coelcerthi, hyd yn oed rhai bach, fynd allan o reolaeth yn hawdd iawn.  

Argymhellwn eich bod yn cael gwared ar wastraff gardd trwy ei gompostio, ei roi yn eich bin brown neu fynd ag o i'ch canolfan ailgylchu leol.  

Ni ddylech losgi gwastraff domestig.

Beth ydi’r problemau posib?

Llygredd Aer

Mae llosgi gwastraff gardd yn cynhyrchu mwg, yn enwedig os ydi’r gwastraff yn damp ac yn mudlosgi. Mae’n cynnwys llygryddion megis carbon monocsid, deuocsidau a gronynnau. Mae llosgi plastig, rwber neu ddefnyddiau wedi eu paentio nid yn unig yn creu arogl annymunol ond maent hefyd yn cynhyrchu pob math o gyfansoddiadau gwenwynig.

Risg i iechyd

Er nad ydi anadlu ychydig bach o fwg o goelcerth yn debygol o achosi niwed difrifol, fe all achosi problemau i rai pobl. Fe all effeithio ar bobl gyda chyflyrau blaenorol megis:

  • Asthma
  • Broncitis
  • Afiechyd y galon

Risg i ddiogelwch

Dylech gymryd pwyll wrth losgi gwastraff oherwydd:

  • Fe all tân ledaenu i ffensys neu adeiladau a deifio coed a phlanhigion
  • Fe all sbwriel gynnwys poteli neu ganiau ac fe allant ffrwydro wrth gael eu llosgi
  • Yn aml iawn mae anifeiliaid gwyllt ac anwes yn cysgu mewn twmpathau o wastraff gardd

Parchu’ch cymdogion

Mae mwg, parddu ac arogl o goelcerthi, yn destun cwynion di-ri i awdurdodau lleol. Mae mwg yn atal eich cymdogion rhag mwynhau amser yn eu gerddi, agor ffenestri neu hongian dillad ar y lein, ac maent hefyd yn achosi gwelededd gwael yn y gymdogaeth ac ar ffyrdd. Mae rhandiroedd ger cartrefi yn gallu achosi problemau os ydi deiliaid tir yn llosgi gwastraff yn ddi-baid.

Os ydi cymydog yn achosi problem trwy losgi gwastraff, yna mae’r gyfraith ar eich ochr chi. O dan Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, mae niwsans statudol yn cynnwys “mwg, mygdarthau neu nwyon o safle sydd yn niweidiol i iechyd neu yn achosi niwsans”. Yn ymarferol, er mwyn i’r broblem gael ei hystyried yn niwsans statudol, rhaid i’r broblem fod yn un barhaus, sydd yn amharu’n sylweddol ar eich lles, cysur neu’ch mwynhad o’ch eiddo.  

Fe all amodau sydd yn arwain at niwsans statudol gynnwys:

  • Mwg yn mynd i mewn i dai pobl
  • Mwg yn chwythu dros erddi ac atal pobl rhag defnyddio’r ardd.
  • Mwg yn effeithio ar olch pobl.
  • Lludw a chols poeth yn glanio ar eiddo
  • Nid yw coelcerth achlysurol yn cael ei hystyried yn niwsans (oni bai ei bod yn llosgi ac achosi niwsans mwg i chi am gyfnod hir neu’n achosi allyriadau niweidiol)
  • Os ydi’r goelcerth yn cynnwys gwastraff diwydiannol/masnachol ac yn llosgi mwg du yna mae’n drosedd dan Ddeddf Aer Glân 1993.

Mae’n drosedd i ffatrïoedd a safleoedd masnach allyrru mwg tywyll o’u simneiau o dan Ddeddf Aer Glân 1993 oni bai bod hynny’n anochel (e.e. wrth danio). Fe ddylai’r dechnoleg gyfredol ganiatáu taniadau effeithlon, yn rhydd o fwg tywyll bob amser. Mae allyriadau mwg tywyll o ganlyniad i losgi yn yr awyr agored (Coelcerthi) ar safleoedd diwydiannol neu fasnachol (gan gynnwys safleoedd dymchwel) neu dir amaeth hefyd wedi ei wahardd, oni bai am rai amgylchiadau cyfyngedig. Mae mwg “tywyll” yn fwg lliw llwyd ac mae wedi ei ddiffinio gan y gyfraith.

Os ydi’ch cymdogion wedi cynnau coelcerth a bod y mwg yn eich poeni chi, ewch atynt ac eglurwch y broblem. Efallai y byddwch yn teimlo’n lletchwith, ond mae’n bosib nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn achosi gofid i chi. Gyda lwc, byddant yn deall ac yn bod yn fwy ystyriol y tro nesaf. Os nad ydi’ch cymydog am wrando, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol. Mae’n rhaid iddynt ymchwilio i gwynion ac fe allant ddyroddi rhybudd diddymiad o dan Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd.

Eisiau adrodd problem gyda choelcerth?

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

 

Os ydych am losgi, ffoniwch ein hystafell reoli ar 01931 522006 os gwelwch yn dda. Bydd hyn yn helpu i osgoi galwadau ffug ac anfon criwiau i ddigwyddiadau yn ddiangen, yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb pe byddai'r tân yn mynd tu hwnt i'ch reolaeth.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen