Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am danau trydanol yn dilyn dihangfa lwcus yn Abermaw

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Tân yn rhybuddio am beryglon eitemau trydanol a systemau gwifrio diffygiol neu heb eu profi wedi i ddyn oedrannus a'i ferch gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn Abermaw brynhawn ddoe.  

Cafodd diffoddwyr tân o Abermaw, Harlech, Dolgellau ac Aberystwyth eu galw i'r tŷ teras tri llawr ar Marine Drive am 15.20 o'r gloch ddoe, Awst 6ed.

Cafodd y dyn 86 mlwydd oed a'i ferch eu rhybuddio am y tân pan glywsant glec fawr yn dod o gyfeiriad yr ail lawr uwch eu pennau - ar ôl mynd i weld beth oedd achos y glec, gwelodd y ferch bod y sugnwr llwch yr oedd hi wedi ei blygio i'r soced yn gynharach yn mudlosgi ac yna fe aeth ar dân

Llwyddodd dy ddau i adael yr adeilad yn ddiogel ac fe dderbyniodd y gŵr archwiliad rhagofalol gan barafeddygon yn y fan a'r lle

Fe ddefnyddiodd y criwiau 18 set o offer anadlu, dwy bibell ddŵr a dwy brif bibell o ddiffodd y tân. Fe achosodd y tân ddifrod 100% i'r gegin ar y trydydd llawr, gwagle'r to a'r ystafell wely lle cychwynnodd y tân. Fe achoswyd difrod tân 50% i ystafell fyw arall ar yr ail lawr yn ogystal â difrod ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.

Meddai Mike Plant, Rheolwr Ymateb ar gyfer Gwynedd: "Mae'r difrod a achoswyd i gartref y gŵr hwn yn dangos pa mor gyflym y gall tân ledaenu.  Yn bryderus iawn, nid oedd larymau mwg wedi eu gosod yn yr eiddo - a phetai'r tân wedi cychwyn gyda'r nos, gallem fod wedi bod yn delio â thân angheuol arall yma yng Ngogledd Cymru.  .

"Mae larymau wg yn rhoi rhybudd cynnar sydd yn eich galluogi i adael yr adeilad cyn gynted â phosibl os bydd tân - ac maent ar gael yn rhad ac am ddim fel rhan o'r archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim a gynigir gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

"Sefydlwyd mai achos y tân oedd nam trydanol yn y sugnwr llwch neu'r gwifrau trydanol - mae'n bwysig bod hen gyfarpar yn cael eu profi'n rheolaidd gan drydanwr cymwysedig a threfnu prawf gosodiadau trydanol o dro i dro i sicrhau bod yr offer trydanol yn eich cartref yn ddiogel.

"Fe weithiodd y criwiau'n dda i gadw'r tân dan reolaeth yn r eiddo a'i atal rhag lledaenu i gartrefi cyfagos.  Buont yn parhau gyda'r gwaith i amddiffyn y gymuned neithiwr a heddiw byddant yn ymweld â chartrefi yn yr ardal i gwblhau archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim a gosod larymau mwg os oes angen.

"Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru ac y mae'n rhad ac am ddim.  Bydd aelod o'r gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd os oes angen - a'r cyfan am yn rhad ac am ddim. I gofrestru, galwch 0800 169 1234 neu ewch

i www.gwastan-gogcymru.org.uk.  Gallwch hefyd ddefnyddio eich ffôn symudol i gofrestru drwy fynd i www.larwmmwgamddim.co.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen