Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth yng Ngwynedd a Môn i amddiffyn rhag peryglon Carbon Monocsid

Postiwyd

Fel rhan o'u partneriaeth waith barhaus, roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn yn llwyddiannus yn eu cais i ddod yn aelodau o raglen 'Be Gas Safe' Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA).

 

Y mae ROSPA wedi darparu 200o synwyryddion CO (carbon monocsid) ar gyfer y berthynas, pecyn briffio a 2,000 o daflenni 'I'm Staying Safe Gas Safe'.

 

Meddai Celfyn Evans, Rheolwr Partneriaeth dros Wynedd a Môn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Nod y rhaglen 'Be Gas Safe' yw codi ymwybyddiaeth o beryglon carbon monocsid (Co) a'r camau y gellir eu cymryd i atal gwenwyno CO, megis cynnal a chadw cyfarpar sy'n llosgi tanwydd yn rheolaidd, systemau awyru da a defnyddio synwyryddion CO clywadwy.

 

"Mae cyfarpar a ffliwiau nwy sydd heb eu gosod, eu cynnau a'u cadw neu eu hawyru'n iawn ymhlith rhai o achosion gwenwyno CO, a bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gofal a Thrwsio yn canolbwyntio ar dargedu grwpiau risg allweddol, yn enwedig teuluoedd ar gyflogau is sydd gan blant ifanc, pobl dros 65 mlwydd oed a phobl gyda gwaeledd cronig neu anabledd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen