Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apelio ar i bobl gael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref yn dilyn cwest i farwolaeth tân yn Llanrwst

Postiwyd

Y mae apêl ar i'r cyhoedd gydnabod pwysigrwydd yr archwiliadau diogelwch tân yn y cartref a gynigir gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ei chyhoeddi heddiw yn dilyn cwest i farwolaeth dyn mewn tân yn ei gartref yn Llanrwst yn gynharach eleni.

 

Cafodd criwiau o Lanrwst a Betws Y Coed eu galw i dân mewn byngalo sengl yn  Llys y Bioden, Llanrwst am 8.20 o'r gloch Ddydd Mercher 26 Mehefin. Daethpwyd o hyd i gorff Mr Alfred Hodges, 97 mlwydd oed, yn yr eiddo.

 

Yn dilyn archwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru canfuwyd bod y tân wedi ei achosi gan dostiwr.

 

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim - yn ogystal â gosod teclynnau achub bywyd fel larymau mwg byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r math o beryglon tân sydd i'w cael yn y cartref, rhannu cynghorion syml ar sut i gadw'n ddiogel a'ch helpu i lunio cynllun dianc o dân a allai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw.

 

"Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân a fydd yn rhoi cyfle i chi a'ch teulu fynd allan yn ddiogel os bydd tân.

 

"Rydym yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.  I gofrestru galwch 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch ebost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk.  Bydd aelod o staff yn cysylltu gyda chi i drefnu ymweliad ar adeg sydd yn gyfleus i chi."

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen