Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar i gymunedau“gymryd pwyll arbennig”yn ystod y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan ddiffoddwyr tân

Postiwyd

 

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' yn y cartref ac ar y ffyrdd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y bydd  diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannolNos Wener 13eg Rhagfyr rhwng 6:00pm a 10:00pm aDdydd Sadwrn 14eg Rhagfyrrhwng 6pm a 10pm.

 

Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith: " Mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd sylw o ddiogelwch yn y cartref ac ar y ffordd, ond mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol.

 

"Ar yr achlysur hwn mae Undeb y Brigadau Tân wedi dewis strecio ar adeg pan fydd pobl yn fwy agored i beryglon  - ar nos Gwener a nos Sadwrn mae pobl yn debygol o fod allan yn cymdeithasu ac yn yfed neu'n coginio yn y cartref ar gyfer ffrindiau a theulu.  

 

"Yr hyn sydd hefyd yn achosi pryder i ni yw y bydd pobl, yn ôl pob tebyg, yn dathlu cyn y Nadolig ac y byddant o ganlyniad yn hyd yn oed yn fwy agored i beryglon."

 

"Yr wyf felly'n erfyn ar i bobl feddwl yn ofalus am y math o sefyllfaoedd y gallant fod yn eu hwynebu.  Yn hanesyddol mae galwadau i'r gwasanaeth tân ac achub ar eu uchaf gyda'r nos ar benwythnosau ac mae'n ddigon posibl na fyddwn yn gallu ymateb yn y un modd yn ystod y streic - felly atal sydd orau, cymrwch y rhagofalon tân canlynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel;

 

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio
  • Peidiwch ag yfed a choginio - mae'n gyfuniad peryglus. Os ydych yn llwglyd prynwch tecawê neu gwnewch frechdan.  Peidiwch ag estyn eich sosban sglodion na gadael bwyd yn coginio.
  • Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
  • Diffoddwch  unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda chanhwyllau
  • Glanhewch ei simnai a defnyddiwch gard tân ar danau agored
  • Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch a cheisio taclo'r tân eich hun.

 

Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk a'n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook  www.facebook.com/Northwalesfire a Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.

 

Y mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain cyn y gwyliau, ond erfynnir ar y cyhoedd i gadw diogelwch tân mewn cof dros yr ŵyl drwy ddilyn y cyngor diogelwch tân sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn arbennig ar gyfer y Nadolig.

 

Y mae  disgwyl i nifer uchel o staff y gwasanaeth tân ac achub brotestio ac o ganlyniad bydd gostyngiad yn yr adnoddau ni ar gael i ni.  O ganlyniad, ni fydd yn bosib 'r gwasanaeth tân ac achub ymateb yn yr un modd  ag arfer - bydd yn parhau i ymateb i alwadau brys ac yn canolbwyntio ar anfon adnoddau i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.  

 

Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: " Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth  drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd  " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".  

 

" Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adref y gwasanaethau arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."

 

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra'n bod yn  deall pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib.  Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn.  Fodd bynnag ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch y cyhoedd.

 

Gofynnir i unrhyw un sydd am alw'r gwasanaeth tân ac achub ynglŷn â mater nad ydyw'n fater brys yn ystod yr achos o weithredu diwydiannol i aros hyd nes i'r gwasanaeth arferol gael ei adfer cyn gwneud yr alwad honno .

 

 

Nodyn i olygyddion

 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r datganiad hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ar 01745 535 283

 

 

 

 

 

 

Sut allwch chi gadw'n ddiogel rhag tân? Dyma air i gall ar ddiogelwch tân;

Larymau Mwg - Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy yn rheolaidd. Dylid gwirio'r batris unwaith yr wythnos a'u newid o leiaf unwaith y flwyddyn.

Coginio - Cymrwch ofal arbennig wrth goginio. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio. Peidiwch â llenwi eich sosban tsips fwy na thraean. Peidiwch byth â rhoi bwyd i mewn yn eich sosban tsips os bydd yr olew yn mygu - trowch y gwres i ffwrdd a gadewch iddo oeri. Peidiwch byth â choginio os ydych dan ddylanwad alcohol.

Canhwyllau -Peidiwch â defnyddio canhwyllau yn rhy agos at lenni. Peidiwch â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt.  Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau'n cael eu diffodd yn gywir bob amser.

Matsis- Cadwch fatsis a thanwyr  ymhell o gyrraedd plant.

Defnyddiau Ysmygu- Defnyddiwch flwch llwch priodol bob amser.  Diffoddwch ddefnyddiau ysmygu yn gywir. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.

Cynllun Dianc- Cynlluniwch eich llwybr dianc gyda phawb. Cofiwch  gynnwys plant a'r henoed bob amser.  Caewch bob drws gyda'r nos a diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol yn y plwg oni bai eu bod yn cael eu defnyddio.

Tanau Agored- Rhowch gard dân o flaen pob tân agored. Peidiwch â sychu dillad yn rhy agos i dân agored.

Trydan - Newidiwch unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu dreulio. Defnyddiwch y ffiwsiau cywir mewn offer trydanol domestig. Profwch flancedi trydan unwaith y flwyddyn. Peidiwch â gorlwytho socedi.

Diogelwch tân i fusnesau yn ystod y gweithredu diwydiannol:

Er mwyn sicrhau bod eich adeilad yn parhau i fod yn ddiogel rhag tân yn ystod achos i weithredu diwydiannol:

 

Yn gyntaf, dylai perchnogion busnes adolygu eu Hasesiad Risgiau Tân ac, os bydd angen gwneud newidiadau, rhoi'r rhain ar waith ar unwaith.  Yn ogystal â hyn, bydd angen cymryd rhagofalon i atal tanau rhag cynnau. Gall hyn fod cyn symled â cherdded o gwmpas yr adeilad ar ddiwedd diwrnod gwaith er mwyn gwneud yn siŵr nad oes defnyddiau hylosg yng nghyffiniau'r adeilad.

 

Bydd angen i berchnogion wneud yn siŵr bod holl aelodau'r staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd o dân a bod pawb yn parhau i fod yn effro i beryglon tân. Bydd yr hyn sydd angen i berchnogion unigol eu gwneud yn ddibynnol ar eu Hasesiad Risgiau Tân eu hunain.

Yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol, y 'Person Cyfrifol' fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal y rhagofalon tân yn yr adeilad fusnes, ac felly cynghorir perchnogion busnes i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, er mwyn gwneud yn siŵr bod staff, ymwelwyr a'r adeilad yn ddiogel.

 

 

.

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen