Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub saith o bobl o dân mewn fflat yn Abermaw

Postiwyd

Heno fe achubodd ddiffoddwyr tân saith o bobl o dân mewn fflat yn Abermaw.

Galwyd criwiau o Abermaw, Dolgellau a Harlech i'r fflat uwch ben eiddo masnachol ar y Stryd Fawr am 19.39 o'r gloch heddiw, Dydd Iau Chwefror 7.

Dywedodd y ddynes a oedd ar y ffôn nad oedd hi, ei phartner, ei brawd, a'i phedwar o blant yn gallu gadael yr eiddo oherwydd bod y tân yn eu rhwystro rhag defnyddio'r llwybr dianc.  

Cafodd y galwr gyngor dianc o dân dros y ffôn gan un o swyddogion yr ystafell reoli cyn i'r saith gael eu hachub yn ddiogel gan ddiffoddwyr tân drwy ffenestr ar y llawr cyntaf.

Fe ddefnyddiodd y criwiau offer anadlu, bibellau cyfaint uchel, prif bibell a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân a gychwynnodd yn yr  ardal amlbwrpas yn y cyntedd, yn ôl pob tebyg.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yfory.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen